wedi ymsefydlu yn Bryngwran, Mon; ac Ellis Lewis, gwr ieuanc gobeithiol a godwyd yno yn ddiweddar, ac sydd yn awr yn ymbaratoi gogyfer a myned i'r athrofa.
TALYSARN.—Yr Annibynwyr oeddynt y rhai cyntaf o'r cyfundebau Ymneillduol a ddechreuasant bregethu yn y gymydogaeth hon. Dywedir mai gweithiwr o'r enw Michael Owen, aelod o eglwys Penlan, Pwllheli, a fu y prif offeryn i blanu eglwys yn y lle hwn. Daeth y gŵr hwni weithio i'r gymydogaeth yn nechreu y flwyddyn 1790; a chan ei fod yn ŵr o dueddiadau crefyddol, yr oedd anfoesoldeb ei gydweithwyr yn ei boeni yn ddirfawr; ac ar ganol dydd byddai arferol a darllen a gweddio yn yr hen chwimsi, fel y gelwid y lle perthynol i'r gwaith, lle byddai ef a'i gydweithwyr yn bwyta eu tamaid ciniaw. Derbyniodd Michael Owen gyfran dda o ddirmyg a sen oherwydd yr arferiad yma; ond yn raddol darfu i'w onestrwydd a'i ddifrifoldeb enill y bobl i'w barchu, ac yn lle ei wawdio fel cynt ymgasglent yn fynteioedd at yr hen chwimsi er mwyn ei glywed yn gweddio. Tua'r flwyddyn 1793, dechreuodd George Lewis (Dr. Lewis ar ol hyny) ymweled â'r lle yn achlysurol i bregethu i'r gweithwyr ganol dydd. Dilynwyd ef yn yr arferiad yma gan amryw ereill, ac o'r diwedd ymsefydlodd y Parch. W. Hughes, Saron, fel cenadwr teithiol yn y cymydogaethau hyn. Rhywbryd yn y flwyddyn 1800, yr oedd W. Hughes i bregethu yn yr hen chwimsi, ac yr oedd y diwrnod yn wlawog, a'r gynnulleidfa yn ormod i fyned i mewn, deallodd y pregethwr fod hen factory wag yn agos i'r lle, ac wedi cael caniatâd y perchenog awd i mewn yno, ac yn yr hen factory yma gorphwysodd yr arch; yno corpholwyd yr eglwys annibynol gyntaf yn y Nant, a'r hen factory wedi ei hadgyweirio a'i dodrefnu oedd y capel a ddefnyddid gan y Cyfundeb o'r flwyddyn 1800 hyd 1862, pryd yr agorwyd y Seion helaeth a chyfleus bresennol. Er y flwyddyn 1856, y mae yr eglwys hon yn cael ei bugeilio gan y Parch. E. W. Jones. Rhif yr aelodau yn 1856 oedd 30, ac y maent yn awr tua 140, ag Ysgol Sabbothol flodeuog, yn nghyda chynnulleidfa luosog a chynnyddol.
Yn y flwyddyn 1821 adeiladwyd yma gapel perthynol i'r Methodistiaid, Yr oedd pregethu cyn hyn yn Ffridd y Baladeulyn, y tu arall i'r llyn, er's o leiaf 52 o flynyddoedd. Dechreuasant yn nhy un Robert Thomas a'i wraig Catherine Jones. Ymunodd y wraig yn ieuanc â'r Methodistiaid yn y Capel Bach, yn Nhalygarnedd: ond bu Robert Thomas yn greulon ac erledigaethus yn eu herbyn am amser. Coffeir am dano unwaith yn cymeryd taith i Bencoed, Eifionydd, gyda'r bwriad o ladd y pregethwr oedd yno; ond iddo ddychwelyd yn ol o'r elyniaeth oedd yn ei galon wedi ei lladd yn yr oedfa, er mawr lawenydd i'w briod oedd yn llawn pryder yn ei absenoldeb. Ar ol hyn ymunodd Robert Thomas â chrefydd, a gwahoddwyd pregethu i'w ty: cynnelid cyfarfodydd gweddio ac Ysgol Sabbothol hefyd yn y Ffridd am lawer o flynyddoedd, ac y mae cyfran o'r hen bulpud ceryg i'w weled yno eto, a'r hen ganwyllbren haiarn cymalog yn cael ei gadw yn ei le yn ofalus hyd heddyw. Pan gynnyddodd poblogrwydd y gymydogaeth adeiladwyd capel ychydig uwchlaw y ffordd, ar dir Talysarn, yr hwn, erbyn y flwyddyn 1852, oedd