Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwyddodd yn fuan i enill tri ereill o'r enwau W. Jones, W. Roberts, a W. Dafydd, i ddyfod yno gydag ef. Y rhai hyn, gyda gwraig a chwaer W. Williams, oeddynt y rhai cyntaf i ffurfio yr eglwys Fethodistaidd yn Llanllyfni. Dangoswyd llawer o ddirmyg tuag atynt ar y dechreu; nid oedd a'u derbyniau i'w dy, hyd oni chawsant achles yn nhy W. Williams, yn y Buarthau.

Yn y flwyddyn 1770 cynnaliwyd cymdeithasfa yn Llanllyfni am y waith gyntaf. Adroddir hanes y gymdeithasfa hon gan awdwr 'Hanes Methodistiaeth', yn yr hwn y dywed fod person y plwyf yn llidiog iawn o'i herwydd, ac iddo gyflogi dynion i fyned i'r maes i aflonyddu ar y pregethwyr. Wedi i amryw wrthod, o'r diwedd gwr fo'r enw Evan Thomas, gwr ystrywgar a chellweirus, a ammododd â'r person am lonaid ei fol o fwyd a diod, yr elai ac yr aflonyddai yn llwyddiannus. I'r cae yr aeth, ond dychwelodd yn ei ol heb gyflawni ei ymrwymiadau oherwydd ofn; ond gwr arall a wnaeth y gorchwyl mor effeithiol fel y bu gorfod ar y pregethwr ddistewi. Ond Cymro o ymddangosiad boneddigaidd, o gyfundeb Lady Huntingdon, a esgynodd yr areithfa ac a gafodd lonydd i derfynu y moddion.

Yn mhen naw mlynedd drachefn cynnaliwyd yma gymdeithasfa arall, ac yr oedd yr un penderfyniad ar droed i'w haflonyddu; ond gwr grymus o gorpholaeth, o'r enw Robert Prys, a ymosododd ar y terfysgwr, fel y bu gorfod arno sefyll draw a pheidio aflonyddu yr addoliad mwy, a therfynodd yr erledigaeth gyhoeddus ar y Methodistiaid yn y fan hon. Yn y flwyddyn 1771 adeiladwyd capel bychan yn Talygarnedd, ac er na fesurai fwy nag wyth llath wrth chwech, haerid na lenwid byth mo hono; ond eynnyddodd poblegrwydd y gymydogaeth, a chafwyd adfywiadau grymus hefyd ar grefydd trwy y wlad, fel y rhifai yr aelodau a berthynant i gapel Talygarnedd tua 200 erbyn y flwyddyn 1813, pryd y bu raid "lledu y babell ac estyn y cortynau," ac yr adeiladwyd addoldy helaeth wrth y brif-ffordd, yn mhentref Llanllyfni. Tra (bu yr eglwys yn y lle hwn bwriodd allan ganghenau i Bryn-yr-odyn, Carmel, Rhostryfan, Talysarn, Penygroes, a'r Mynydd. Mor gadarn y cynnyddodd gair yr Arglwydd! Yn 1864 adeiladwyd y capel presennol yn Llanllyfni, yr hwn sydd yn un o'r addoldai eangaf a phrydferthaf yn y wlad. Bugail presennol yr eglwys hon yw y Parch. Robert Thomas, diweddar o Fangor. Rhif yr aelodau yw 150, a'r Ysgol Sabbothol 300 ar gyfartaledd.

Yn mhen tua dwy-ar-bymtheg o flynyddoedd ar ol y Methodistiaid daeth y Bedyddwyr i'r gymydogaeth hon. Y pregethwr cyntaf perthynol i'r Bedyddwyr a ddaeth i Lanllyfni oedd un o'r enw Dafydd Morus, o'r Deheudir. Daeth ar daith trwy Gricerth, Pwllheli, Nefyn, ac i Lanllyfni, ac a draddododd bregeth i dyrfa luosog ar y cae tu cefn i'r King's Head. Nid oedd ymddygiad y person mor ffol y tro hwn ag ar adeg Cymdeithasfa y Methodistiaid; eto teimlai y dylasai ymyraeth. Y tro hwn danfonodd y clochydd i'r oedfa, gan orchymyn iddo ddal yn fanwl ar athrawiaeth y gwr dyeithr. Y clochydd, yr hwn oedd wr lled wybodus a diragfarn, a wnaeth felly, a phan ddychwelodd at ei feistr dywedai na wrandawsai well pregeth erioed, fod rhesymau y pregethwr