Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto nid i'r fath radd ag i golli dim ar ddillynder na destlusrwydd ei draethawd , ond yn hytrach i fywiogi teimlad y darllenydd; ac y mae tlysni a phriodoldeb neillduol yn holl nodiadau y dosbarth hwn. Y mae y trydydd dosbarth yn fwy amrywiaethol,ac efallai yn fwy dyddorawl; fel y mae yn dyfod i afael a phethau diweddar. Da genym ei weled yn cadw cyflawn feddiant arno ei hun yn ei ganmoliaethau i bersonau ac i leoedd. Nid ydyw fel un a fynai ini gredu mai yn Nant Nantlle y crewyd y byd er fod pob math o dalent, a rhinwedd, a rhagoroldeb wedi cael cyfle i gartrefu yno.

"Am y ddau awdwr gallwn ddyweyd fod Un o hil Rodri yn weithiwr dihafal, ond y mae Maelda£ Hen yn well crefftwr nag ef: fel y mae yn rhaid dyfarnu y wobrwy bresennol i Maeldaf Hen, tra ar yr un pryd y dymunem gymell y gymdeithas (os yw bosibl) i roddi ail wobr o ddau gini neu fwy i Un o hil Rodri, llafur yr hwn yn ddiamheu sydd deilwng o gefnogaeth.

"Goddefer ini ychwanegu yr hoffem weled traethawd Maeldaf Hen yn cael ei argraffu, gan ein bod yn credu y byddai yn ychwanegiad gwerth fawr at ein trysorau llenyddol. Pe cymerai pob cymydogaeth trwy y Dywysogaeth yr awgrymiad oddiwrth y cyfeillion yn Nantlle, gan gynnyg gwobrwy deilwng am draethawd lleol da a chynnwysfawr, crynhoid felly ddefnyddiau Hanes Cymru cyflawnach a pherffeithiach nag a ellir ei wneyd yn bresennol.

Ydwyf yr eiddoch yn ostyngedig ,
OWEN JONES . "

"Bryn Eisteddfod, Llandudno, Ebrill 6ed , 1871."


Priodol yn ddiau yw crybwyll ddarfod i Maeldaf Hen ddefnyddio cyfleustra ar ol yr Eisteddfod i helaethu ychydig ar ei draethawd, yr hyn, fel yr hydera , a'i gwna yn fwy dyddorol i'r darllenydd. Wedi y cwbl nid yw agos yr hyn a ddymunasai ei awdwr iddo fod; a phan ystyrir nad