Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn anwrthwynebol. Dywedir i'w feistr ddigio wrtho am y ganmoliaeth hon fel na ddangosodd y fath sirioldeb tuag ato ar ol hyny.

Adeiladwyd y capel cyntaf perthynol i'r Bedyddwyr yn y flwyddyn 1790, hwnw yw capel y Ty'nlon, ac sydd yn awr yn meddiant y Bedyddwyr Albanaidd. Yn y flwyddyn 1805 dygwyddodd anffawd i'r cyfundeb hwn a fu yn atalfa ar ei gynnydd, nid yn unig yn Llanllyfni ond trwy y rhan fwyaf o Ogledd Cymru. Yr ydym yn cyfeirio at yr ymraniad Sandimanaidd, fel ei gelwir, o dan arweiniad y Parch. J. R. Jones, o Ramoth, sir Feirionydd. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn dysgedig iawn, yn hyddysg mewn amrywiol ieithoedd, yn bregethwr a duwinydd rhagorol, ac yn bleidiwr di-ildio i ryw osodiadau nad oedd ei oes na'i enwad yn aeddfed i'w derbyn. Cofleidiodd olygiadau duwinydd Albanaidd o'r enw A. Mc.Lean. Dygodd elfenau anghydfod i mewn i'r eglwysi, ac ymraniad a rhwygiadau a ddilynodd. Ymunodd y mwyafrif yn Llanllyfni & phlaid Jones o Ramoth, a chadwasant feddiant o'r capel. Y rhai a lynent wrth olygiadau yr hen Fedyddwyr, ar ol bod tua phum' mlynedd heb unrhyw addoliad, a ddechreuasant gynnal cyfarfodydd mewn tai annedd yn y pentref; ac yn y flwyddyn 1826 adeiladasant gapel bychan yn agos i'r pentref, ar dir y Felingeryg. Ail-adeiladwyd ef yn 1858, a helaethwyd rhyw gymaint arno y flwyddyn ddiweddaf. Prynwyd darn helaeth o dir yn gladdfa wrth y capel, lle mae llawer o gyfeillion ac aelodau o'r eglwys wedi eu claddu. Mae yr eglwys hon, o dan ofal y Parch. R. Jones, yn cynnwys tua 70 o aelodau, a'r Ysgol Sabbothol rywbeth yn gyfartal. Dwy flynedd neu dair yn ol dechreuodd yr Annibynwyr achos yn Llanllyfni; gan fod y Bedyddwyr Albanaidd wedi rhoddi i fyny gynnal moddion crefyddol yn Ty'nlen, benthyciwyd ef gan yr Annibynwyr, y rhai eleni a agorasant addoldy prydferth o'r eiddynt eu hunain. Nid oes eto weinidog sefydlog ar yr eglwys hon, ond y mae mewn cysylltiad â Gosen, Rhosynenan, yn ffurfio taith Sabbothol. Rhifa yr aelodau tua 35, ac y mae yma Ysgol Sabbothol lewyrchus.

CLYNNOG.—Mae Clynnog a'r amgylchoedd yn hen wersyllfa i'r Methodistiaid. Oblegid adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Pryscyni-isaf, a elwid ar ol hyny y Capel Uchaf, yn y flwyddyn 1760, a dyma'r cyntaf ond un (y cyntaf oll, medd awdwr 'Drych yr Amseroedd') a gyfodwyd gan y Methodistiaid yn sir Gaernarfon. Pregethid cyn hyn yn y Berth Ddu Bach, yr hwn a osodasid gan Hugh Evans, Uchelwr, i grefyddwr o'r enw Dafydd Prisiart Dafydd. Gan ei fod yn cael caniatad y perchenog yr oedd yr achos yn cael noddfa yn nhy Dafydd Prisiart Dafydd pan oedd yn cael ei erlid bron yn wastadol mewn manau ereill. Rhydd awdwr Hanes Methodistiaeth' yr hanes dyddorol a ganlyn am y lle hwn: "Yr oedd Hugh Evans, er ei dynerwch at y Methodistiaid, yn ymhoffi yn fawr mewn canu a dawnsio, a phob difyrwch cnawdol o'r fath. Yr oedd yn berchen crwth neu ffidil, ac yn chwareuydd campus arni, ac ato ef yr ymdyrai lluaws o'i gymydogion diofal yn fynych ar ddechreunos i ymddifyru mewn dawns a phleser. Dygwyddodd fod pregeth yn y Berth Ddu Bach ar ryw noswaith, pryd y penderfynodd y cwmni llawen hyn, am y tro, roi heibio eu difyrwch a myned i wrando y bregeth. Gwelodd