Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw yn dda goroni y weinidogaeth y pryd hyny âg awdurdod mawr, fel ag i gyraedd cydwybodau amryw o'r gwrandawyr, ac yn eu mysg yr oedd Hugh Evans, y pen-campwr ei hun. Aeth adref o'r bregeth a dywedodd wrth ei wraig yn un o'r pethau cyntaf 'Mi doraf y ffidil yn ddarnau man.' 'Na, gresyn!' meddai y wraig, 'peidiwch a'i dryllio, bydd yn dda gan Wil Evan ei chael.' 'Nage,' ebe yntau, 'ni wna ond y drwg iddo yntau.' Yna ymaflodd yn yr offeryn ac a ddechreuodd ei churo yn erbyn hen gist ystyfflog oedd yn ei ymyl nes oedd yn chwilfriw man ar hyd y llawr.' Wedi bod am ysbaid yn y Berth Ddu Bach symudodd yr arch i'r Capel Uchaf, lle mae hefyd yn aros hyd heddyw.

Tua'r flwyddyn 1810, adeiladwyd y Capel Newydd ar dir y Brynaerau Isaf, yr hwn a adeiladwyd drachefn yn 1861. Cangen o hen eglwys y Capel Uchaf oedd hon, yn gystal a'r hon a ymsefydlodd yn agos i bentref Clynnog, lle yr adeiladwyd y capel presennol yn 1841, ac a elwir yn awr Ebenezer. Dyma lle bu Eben yn ddiacon ffyddlon am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn briodol iawn enwi y capel hwn ar ei enw. Ynddo hefyd am faith flynyddau y bu yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn cyfansoddi rhai darnau o'i farddoniaeth aruchel, pan y byddai yn ymollwng i for o fyfyrdodau, nes anghoflo pob peth o'i amgylch. Yn Brynaera y dechreuodd y Parch. Thomas Ellis (yn awr o Rhoslan) bregethu, ac ar ei ol ef ŵr ieuanc o'r enw Henry Griffith, genedigol o'r un lle, a mab i Robert a Jane Griffith, y rhai sydd eto yn byw wrth y capel, Brynaerau. Bu R. Griffith am lawer o flynyddoedd yn arweinydd canu, ac yn chwareu offeryn yn Eglwys Clynnog Fawr, ac efe ydyw arweinydd y canu yn awr yn Brynaerau. Ystyrid ef yn gerddor rhagorol pan yn ei flodau, ac y mae ar gael nifer o donau cynnulleidfaol o'i waith mewn arferiad. Ei fab ieuengaf oedd Henry Griffith y cyfeiriwyd ato, yr hwn a fu farw pan ar fin gorphen ei efrydiaeth yn y Bala. Yr oedd yn fachgen o dymmer ddwys a dystaw, ac yr oedd yn arfer treulio llawer iawn o amser gyda Duw mewn dirgelfanau, yn neillduol ar ol iddo ddechreu pregethu, ac yr oedd rhyw ddylanwad anarferol gyda'i bregethau. Yr oedd difrifoldeb ei wedd, tynerwch toddedig ei lais, a'i gymeriad pur yn peri effeithiau neillduol ar ei bregethau. Odid y bu un gŵr ieuanc, er dyddiau John Elias, yn arfer cael y fath odfaon, fel y tystiai ei gymydogion hyd y dydd hwn, yn mysg y rhai y mae ei goffadwriaeth fel perarogl. Ond y darfodedigaeth, gelyn creulon a diarbed, yr hwn oedd wedi danfon chwech o'i frodyr a'i chwiorydd trwy byrth mynwent Sant Beuno o'i flaen, a'i hanfonodd yntau, y seithfed o'r plant, i huno pan yn 23 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am tua pedair blynedd. Ni bu ei fywyd yn ofer, oblegid mewn oes fer enillodd ddegau o eneidiau at y Gwaredwr.

Yn y Pontlyfni y mae achos y Bedyddwyr er's llawer o flynyddoedd. Dechreuodd y Bedyddwyr bregethu yn Brynaerau Uchaf, Llwynimpiau, ac mewn ty bychan gerllaw y fan y mae y capel yn awr. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1822, ac ail-adeiladwyd ef yn 1868. Cyf ododd amryw o bregethwyr enwog o'r eglwys fechan hon, sef William Roberts, genedigol o'r Ynys, a diweddar weinidog Penyparc,