yn swydd Aberteifi, Samuel Williams, genedigol o'r Bont, a gweinidog presennol Nant y glo, ac Enoch Williams, Twyn yr odyn-tri o oleuadau dysglaer, ond ydynt yn awr yn dechreu pylu gan oedran. Deallwn fod y blaenaf wedi gorfod encilio oddiwrth lafur gweinidogaethol oherwydd gwaeledd ei iechyd.
Un capel perthynol i'r Cyfundeb Wesleyaidd sydd o fewn terfynau ein testyn, sef yr un yn Treddafad, Penygroes. Dechreuodd y Wesleyaid bregethu yn y gymydogaeth hon er's tua 40 mlynedd yn ol, mewn ty ar lethr y Cilgwyn a elwir Cel-y-llidiart, ond a elwid Nebo y pryd hyny. Yn y flwyddyn 1834, adeiladwyd capel yn Treddafydd. Gwywodd yr achos i'r fath raddau ar ol hyny, nes y penderfynodd y Wesleyaid ei osod i'r Methodistiaid, y rhai fuont yn ymgynnull ynddo hyd y flwyddyn 1860, pan yr adeiladwyd Bethel yn ei ymyl. Ail-ymaflwyd yn y gwaith yn ddiweddar drachefn gan y brodyr Wesleyaidd, ac y mae ynddo yn awr eglwys fechan weithgar yn rhifo tua 30 o aelodau.
Heblaw Talysarn a Phenygroes, lle mae eglwysydd cryfion gan y Methodistiaid wedi hanu o eglwys Llanllyfni, y mae Talysarn drachefn wedi anfon allan i'r byd ferched enwog, sef Nantlle a Hyfrydle, lle mae capelydd heirdd ac eang. Y mae gan y Methodistiaid hefyd orsaf yn Tanyrallt, lle cedwir Ysgol Sabbathol, ac y pregethir yn achlysurol; ac y mae gan yr Annibynwyr orsaf gyffelyb hefyd yn mynydd y Cilgwyn, lle y cedwir ysgol, ac y pregethir yn achlysurol. Canghenau o eglwys yr Annibynwyr yn Talysarn yw Penygroes a Drws y coed, a changen o eglwys y Felingeryg yw yr eglwys Fedyddiedig yn Talysarn.
Yr ydym yn awr wedi cyfeirio at yr holl leoedd o addoliad o fewn terfynau ein testyn, a chyda golwg ar ansawdd crefyddol o'i fewn nid am-heuwn nad all sefyll cymhariaeth âg unrhyw ddyffryn neu nant yn Ngwynedd o ran harddwch a rhifedi ei addoldai, a chymeriad ei eglwysi,. yn ol rhifedi a sefyllfa y trigolion, y rhan fwyaf o ba rai ydynt yn perthyn i'r dosbarth gweithiol. Ond addefir yn gyffredinol nad oes unrhyw ddosbarth o weithwyr mor hael at achosion crefyddol, ac yn meddu cystal addoldai a'r chwarelwyr; a hir y parhaont i deilyngu y ganmoliaeth hon; ac er fod rhai o'r eglwysi uchod yn gryfion, ac yn cynnwys nifer mawr o aelodau, y mae eto yn aros dir lawer i'w feddiannu.
Cyn terfynu y bennod hon dymunwn grybwyll ychydig eiriau am rai pregethwyr a godasant yn yr eglwys uchod nad ydym wedi cyfeirio atynt hyd yn awr; a'r cyntaf yw William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Llanllyfni. Yr oedd W. Dafydd yn ddyn dichlynaidd iawn ei ymarweddiad, ac o ddawn llithrig a phoblogaidd, ac yr oedd yn nodedig o barchus trwy y wlad. Ei ddull o bregethu oedd fyr a melus. Dywedir fod ynddo hoffder neillduol at blant, a'i fod yn hynaws a thirion yn ei gyfeillach. Am rai blynyddoedd, yn niwedd ei oes, yr oedd yn fusgrell ac afiach iawn. Rhaid fyddai cael help cadair i'w gynnorthwyo i fyned ar gefn ei geffyl, ac arferid ei gario o le i le gan ei gynnorthwyo i ddringo y pulpud. Ac wedi iddo fyned mor afiach nes methu gadael cartref, cymaint oedd ei ymlyniad wrth ei hoff waith o