Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ad. Cym. Ad Cym
1 Drws y coed (A.) 1856 80 10 Felingeryg (B.) 1858 80
2 Nantlle (M.C.) 1865 81 11 Llanllyfni (M.C.) 1864 200
3 Talysarn" (M.C.) 1853 250 12 Eto (A) 1871 36
4 Seion (A.) 1861 140 13 Brynsera (M.C.) 1860 110
5 Tabernacl (B.) 1862 50 14 Pontlyfni (B.) 1868 60
6 Hyfrydle (M.C.) 1867 130 15 Ebenezer (M.C.) 1844 100
7 Bethel (M.C.) 1860 180
8 Soar (A.) 1860 120 Cyfanswm 1576
9 Tre Ddafydd (W.) 1834 30


Dosbarth III.—Hanes Presennol.
PENNOD I

Mae yr haner canrif diweddaf wedi esgor ar gyfnewidiadau anhygoel gyda golwg ar gyfryngau masnach, addysg, a chrefydd, yn Nyffryn Nantlle. Haner can' mlynedd yn ol ni rifid o Drwsycoed i Benygroes nemawr gyda dwsin o dai annedd, a phe byddai yn bosibl i'r hen drigolion fu yn byw ac yn marw ynddynt gael golwg ar eu hen ddyffryn tawel hwn fel y mae, o'r braidd y gallent gredu eu llygaid eu hunain. Yn y lle yr oedd dolydd tawel, rhwng cysgodion llanerchau o goedydd preiff tewfrigog, yn y rhai y pynciau corau asgellog, y mae yn awr gloddfeydd safnrhwch yn ymddangos fel pe byddai calon y ddaear wedi ei thynu o honi: ac yn lle peroriaeth adar, a llancesau wrth weini gyda'r gwartheg a'r diadellau, clywir twrf pylor yn "palu mynyddau." Uwchben y tyllau arswydus gwelir ugeiniau o'r gweithwyr yn hongian wrth didau, ac yn ymddangos yn debycach i'r pryf copyn yn gweu ei rwyd uwchben y gwagle erchyll; ond y maent yn galonog ac anturiaethus, ac yn foddlawn dygymod a'u holl galedwaith os bydd golwg am setlio canolig, er fod yr hen greigiau yna wedi bod yn diaspedain yn fynych gan lefau marwol eu cydweithwyr, a'r lechfan las wedi cael ei rhudd-ystaenio â'u gwaed. Gan y bydd yn fwy cyfleus ini fwrw golwg ar ansawdd bresennol y nant wrth ei gymeryd o'i gwr, ni a ddechrenwn unwaith yn rhagor yn Drws-y-Coed.

Prif fantais y lle neillduedig hwn i fyw yndde yw y gwaith mwn sydd yma. Nid oes genym unrhyw wybodaeth sicr pa bryd y dechreuwyd codi copr yn ngodreu Careg Meredydd; bernir oddiwrth ryw hen agoriadau fod hen genedl ddewr ac anturiaethus y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio ynddi. Y mae yn ddirgelwch yn awr pa fodd yr oeddynt yn agor y graig, gan nad oes ol ebillion na phylor ar eu gwaith. Crybwylla awdwr yr 'Observations on the Snowdon Mountains,' fod y gwaith wedi cael ei gario yn mlaen yn flaenorol i'r flwyddyn 1862, er's deng mlynedd ar hugain; ond pan wnaed i fyny y cyfrifon ar derfyn yr amser hwnw, fod y cwmni yn cael ei hun yn golledwr o ddwy fil o bunnau. Ymaf-