Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mewn hen gyfansoddiad barddonol, a dadogir ar Myrddin Wyllt, ceir y brophwydoliaeth ganlynol:

"Pan dorer y deri yn agos i'r Yri,
A'i nofiad yn efrydd o Gonwy i fro Gwerydd (Gwerddon),
A throi'r ceryg yn fara yn agos i'r Wyddfa."

Cyflawnwyd y rhan gyntaf o'r broffwydoliaeth hon yn ngwaith y Saeson yn cymynu y deri, a thori i lawr fforestydd y Wyddfa o flaen byddin Iorwerth y Cyntaf; ac os wrth droi y "ceryg yn fara" y meddylid y byddai dynion yn enill eu bara wrth wneyd y ceryg yn do, ymddengys fod amseriad y diweddaf yn gyffelyb i'r cyntaf, y rhai erbyn hyn, modd bynag, sydd wedi eu cyflawni yn llythyrenol yn amgylchoedd y Wyddfa. Y mae tair cymydogaeth yn sir Gaerynarfon yn honi y flaenoriaeth gyda golwg ar y cloddfeydd, sef Bethesda, Llanberis, a Nantlle. Dygir y ffaith ganlynol gan y lle blaenaf:—" Oddeutu tri chan' mlynedd yn ol cawn yr hen fardd, Sion Tudur, wedi gwneyd 'Cywydd i ofyn llwyth o yslatys o Chwarel y Cae Hir, gan Robert Thomas, Ll.D., Deon Bangor, oddeutu y flwyddyn 1570." O blaid Llanberis crybwylla Gutyn Peris fod yr haf-dy perthynol i Lys Dinorwig, a elwid y Fechwen, wedi ei doi â cheryg cyffelyb o ran eu hansawdd i'r rhai a gloddir yn bresennol yn Chwarel Dinorwig; ac yr oedd yr haf-dy o leiaf yn 600 mlwydd oed. O blaid Nantlle dywedir fod yr hen lys tywysogol yn y Baladeulyn wedi ei doi â cheryg cyffelyb i'r rhai a gloddid ar ol hyny yn Nghloddfa'r Clytiau, yn y Cilgwyn, ac am a allwn ni weled nad oes gan y Cilgwyn gystal hawl i honi y flaenoriaeth ar Elidir neu y Fronllwyd. Gallwn gasglu fod rhyw fath o geryg brigog, anghelfydd, ac anghymesur o ran ffurf a thrwch, yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd lle ceir hwynt er's canrifoedd bellach, er mae yn ddiweddar mewn cymhariaeth y daeth y fasnach lechau i'r fath bwysigrwydd ag ydyw yn bresenol.

Dywed un ysgrifenydd cyfarwydd â'r pwnc fel y canlyn am y dull y dechreuwyd gweithio y chwarelau:—"Pa fodd bynag nid oedd y fasnach lechi ond bychan a distadl iawn bedwar ugain mlynedd a mwy yn ol. Nid oedd y cloddfeydd llechau y pryd hwnw ddim ond cyffelyb i'r pyllau mawn. Yr oedd rhyddid i holl drigolion y fro i dori mawn ar y mynydd (common), mewn unrhyw fan; ond wedi i un ddechreu mewn unrhyw le ystyrid yn lladrad i neb arall gymeryd meddiant o bwll ei gymydog. Ac yr oedd yr un rhyddid i dreio am lechau yn y mynydd; ond wedi i ryw un ddechreu chwarel, lladrad fyddai i neb arall gloddio yn hono. A "Chwarel Morris William," a "Chwarel John Jones," &c., y gelwid hwy y pryd hyny. Ond fel y cynnyddai y cyfryw cydunai nifer o chwarelwyr y gymydogaeth yn gyfranogion (partners) a'u gilydd i weithio chwarel, a gwerthu y Lechau i ryw rai fyddai yn adeiladu tai. Yn nesaf gwelid llong fechan yn awr ac yn y man yn Nghaerynarfon, neu Felinheli, neu Bangor, a'r chwarelwyr bellach yn dechreu dangos mewn amryw ddulliau, heb fod yn ddoeth iawn, fod ganddynt ddigonedd o