arian. Tynodd hyn sylw y tir-feddiannwyr ac ereill at y cloddfeydd llechau, a chymerasaut hwy feddiant o'r rhai penaf, a dechreuasant eu gweithio ar gynlluniau mwy eang ac effeithiol." Rhoddwn eto ddesgrifiad hen chwarelwr o'r dull anghelfydd o weithio. y llechau yn yr amser y cyfeiriwyd ato uchod. "Wedi llwyddo trwy offerynoliaeth ceibiau a throsolion i gael ychydig glytiau, cariai dyn hwy ar ei gefn o un i un i'r clwt agored, ac os byddai eisieu pileru clwt dodai gareg dan ei ben, yn union dan y lle yr amcanai iddo dori, a chyda clamp o ddulbren efe a gurai ar y fan hono nes pilerau; ond weithiau byddai y dulbren yn myned yn ddellt cyn gwneyd ei waith! Y gorchwyl nesaf gyda y clytiau oedd eu trwsio a'u hollti; ac yr oedd gan y noddwr gareg deirongl a elwid Maen Nadd, ac wrth ei thalcen swp o geryg, ar yr hwn yr oedd torch wellt lle yr eisteddai i naddu, nid at yr un hyd na lled pennodol, ond at ryw faint, cymaint ag a oddefai y gareg: ac'ar y torwr, druan, y disgynai y gwaith o orphen eu cymhwyso. Yr oedd amryw o'r llechi hyn yn dri chwarter modfedd, ac weithiau yn fodfedd o dew, ac y mae engreifftiau dyddan i'w cael ohonynt weithiau mewn hen furddynod. Nid oedd yr hen gyllell naddu nemawr fwy na thriwal; rhywbeth tua saith modfedd a haner o hyd wrth bedair o led, fel y dengys yr engraifft o un sydd yn llaw y ddelw o fynor o lechnaddwr sydd yn eglwys Llandegai."
Gellir ffurfio meddylddrych am gynnydd y farchnad lechi yn Nyffryn Nantlle oddiwrth y gwelliantau olynol a wnaed yn y dull o'u trosglwyddo i borthladd Caerynarfon. Pan ddechreuwyd eu cloddio cludid hwy mewn cewyll ar gefnau mulod neu ferlynod dros y mynydd, ar hyd llwybrau anhygyrch; dull oedd o angenrheidrwydd yn drafferthus ac annyben. Ar ol hyny gwnaed ffordd trwy Benygroes, a elwir yn awr yr Hen Ffordd, ar hyd yr hon y cludid hwy mewn certwyni. Yr oedd hon, er ei bod yn welliant mawr, ar yr hen lwybr dros y mynydd, eto nid oedd ond ffordd anwastad a throfaog. Y gwelliant nesaf oedd gwneyd y dollffordd bresennol, yr hon sydd yn ffordd wastad, weddol dda, ac yn cael ef chadw mewn trefn lled ragorol. Tua'r flwyddyn 1829 agorwyd llinell o ffordd haiarn o'r Nant i Gaerynarfon, ar hyd yr hon y gallai un ceffyl lusgo amryw dunelli gyda rhwyddineb. Bu hon yn cael ei defnyddio am ysbaid fel cyfleustra i deithwyr, a'r rhai a ymwelent â'r marchnadoedd yn y dref. Darparwyd cerbydau pwrpasol arni, ond eu bod yn agored, ac oherwydd hyny yn ddigysgod iawn yn nyfnder y gauaf. Yn awr y mae cangen o linell ffordd haiarn sir Gaerynarfon yn cael ei gweithio yn brysur, a chyn pen ond ychydig o ddyddiau ar ol yr amser yr ydym yn ysgrifenu bydd y "march tan" wedi dysgu ei ffordd i'n dyffryn ninau, a chyfleusterau teithiol wedi eu perffeithio. Wrth edrych ar y gwelliantau olynol uchod teimlwn awydd aros i ofyn i'r darllenydd, Tybed a ydyw ar ben yn awr? A oes rhyw welliant i ddilyn ar ol hyn? A ydyw dyfais y meddwl dynol wedi cyrhaedd ei uchafnod yn mherffeithiad yr agerbeiriant a'r ffordd haiarn? Ond nid oes terfyn i ddarganfyddiadau meddwl dyn, ac efallai nad allwn yn awr freuddwydio am y gwelliantau sydd i'w datguddio mewn amser a ddaw.