Byddai nodi y gwelliantau bychain a graddol yn y dull o wneyd y llechau yn debyg o flino y darllenydd â gorfanylrwydd diangenrhaid. Ar y cyntaf yr amcan oedd ceisio eu gwneyd at yr un maintioli, ac yr oedd y rhai cyntaf yn fychain iawn. Gall y darllenydd weled gan Mr. John Jones, y Fodlas, esiamplau ddigon o'r hen ddull a'r maintioli gwreiddiol, ac o bosibl y math cyntaf a weithiwyd erioed yn Nantlle. Tua'r flwyddyn 1746, meddai awdwr "Hanes Sir Gaerynarfon " (Parch. Р. B. Williams), dechreuwyd gwneyd rhai cymaint arall a'r rhai cyntaf, a galwyd hwy yn "geryg dwbl," am eu bod yn ddwbl y maint a dwbl y pris. Yn fuan dechreuwyd gwneyd rhai cymaint arall drachefn, y rhai a alwyd yn "ddwbl mawr." Ond fel yr oedd eu maint a'u graddau yn ychwanegu yr oedd yn rhaid cael enwau newyddion i'w gwahaniaethu, a dywedir mai y Cad. Warburton, perchenog Cae Braich y Cafn y pryd hwnw, ar awgrymiad ei foneddiges, a ddechreuodd roddi yr enwau Countesses, Ladies, Duchesses, a Queens, wrth y rhai yr adnabyddir y gwahanol raddau o lechi yn holl chwarelau Arfon, os nad yn holl chwarelau Cymru hyd y dydd heddyw. Y prif gloddfeydd yn Nantlle, pan ysgrifenodd y Parch. P. B. Williams, oedd yr Hafodlas a'r Cilgwyn. Yr Hafodlas a elwir yn awr Cloddfa y Coed, yr hon sydd yn meddiant Hugh Roberts, Galltberan, gerllaw Pwllheli, ac a weithir i ryw raddau yn y dyddiau hyn. Y prif gloddfeydd yn awr ydynt y Dorothea, Cilgwyn, Penybryn, Talysarn, Penyrorsedd, a'r Coedmadog. Yn y gyntaf, yr hon a ddechreuwyd tua 40 mlynedd yn ol, y mae tua 525 yn gweithio. Y prif berchenog yw J. H. Williams, Ysw., Glanbeuno, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. J. J. Evans a D. Pritchard, Yn Penybryn neu Gloddfa'r Lon y mae tua 250 yn gweithio. Y perchenogion ydynt Mri. Dew and Co., Llundain, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. W. Davies a J. Roberts. Yn Talysarn y mae tua 300 yn gweithio, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. Robinson, T. Jones, a J. C. Jones. Yn Penyrorsedd nid oes yn awr ond tua 40, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. Darbishire a W. Roberts. Yr oedd yn y chwarel hon, tua phedair blynedd yn ol, tua 500 yn gweithio. Yn Coedmadog y mae tua 100 yn gweithio, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. J. White ac O. Rogers. Yn y Cilgwyn y mae tua 280 yn gweithio, a'r goruchwyliwr yw Mr. Ellis Williams. Dyma y rhai pwysicaf o fewn Dyffryn Nantlle.
Y CHWARELWYR.
Ni byddai yn briodol i ni ymhelaethu llawer ar y chwarelwyr, yn unig nodwn ychydig o bethau a ymddengys i ni yn fwyaf nodweddiadol ohonynt. Nid yw y chwarelwyr, a'u cymeryd at eu gilydd, yn ymddangos yn ddynion iach a chorfforol iawn. Dyoddefant yn aml oddiwrth y crydcymalau, a diferant yn fynych i'r mynwentydd trwy effeithiau nychlyd a gwenieithus y ddarfodedigaeth. Y mae amryw o bethau yn dal cysylltiad a'u gwaith ac a'u harferion sydd o angenrheidrwydd yn niweidiol i'w hiechyd. Sylwer ar yr adeiladau rhwyd-dyllog, anniddos, lle mae y rhai sydd yn hollti ac yn naddu yn eistedd ynddynt ar hyd y dydd.