igaidd a pharchus mewn cysylltiad â gwasanaeth y cysegr, Y mae effaith addysg dda, a dygiad i fyny mewn cymdeithas ac ymarferion diwylliedig o angenrheidrwydd yn gosod y wedd yma arnynt. Ni fyddai yn beth dyeithr weled dynion yn dringo i'n pulpudau mor ddifoes, nes aflaneiddio y lle hwnw a sudd melyngoch y myglys; ïe, gwelsom hyd yn nod dalenau y Llyfr mwyaf cysegredig wedi ei anurddo yn y dull hwn ! Yr ydym yn gwybod fod yr eithriadau hyn yn darfod yn brysur, gan gael eu dylyn gan ddynion yn teimlo mwy o barch i'r lle y mae sancteiddrwydd yn unig yn gweddu iddo. Nid rhaid is ni ddyweyd wrth neb sydd yn adnabod y Parch. William Hughes, Periglor St. Rhedyw, ac wedi bod yn gwrandaw arno i ba ddosbarth y perthyna; a bydd yn hawddach genym faddeu i'r hwn a welom yn talu gormod o barch i le o addoliad nag i'r hwn a ymddengys fel wedi anghofio yn hollol pa fath le y mae ynddo, na pha beth yw ei neges.
Ganwyd y Parch. William Hughes yn Bottwnog, yn Lleyn, lle yr oedd ei dad, y diweddar Barchedig John Hughes, o Lanystumdwy, y pryd hyny yn gwasanaethu. Derbyniodd Mr. Hughes elfenau cyntaf ei addysg yn yr ysgol ddyddiol a gedwid gan ei dad, yn ei dy, i nifer o blant boneddwyr. Cymerodd y Parch. John Hughes brif arolygiaeth ysgol yr Esgob Rowlands, yn Bottwnog, hyd oni ymadawodd i Lanystumdwy, lle bu farw. Y mab, y Parch. William Hughes, ar ol gorphen ei addysg, a derbyn urddau a ymsefydlodd yn Meddgelert, o'r lle, yn 1863, y symudodd i Lanllyfni. Heblaw ei fod yn ysgolhaig o radd uchel, y mae yn bregethwr rhagorol, yn meddu llais clir, hyglyw, a dawn ymadrodd rhwydd a llithrig. O ran ei syniadau cyfrifir ef yn Uchel Eglwyswr, ac y mae ei eiddigedd a'i zel dros yr eglwys y mae yn weinidog ynddi yn adnabyddus. Nodweddir ef gan dynerwch a haelfrydedd tuag at y tlawd a'r anghenus. Cydweithreda a'i blwyfolion yn mhob peth rhinweddol. Efe yw cadeirydd pwyllgor yr Eisteddfod Gadeiriol Penygroes, ac y mae yn aelod o'r bwrdd ysgol, ac yn yr holl gysylltiadau hyn nid oes neb mwy ffyddlon na pharotach i lafurio er lles y cyffredin nag ef.
Y PARCH. ROBERT JONES.
Ganwyd y Parch. R. Jones mewn lle a elwir Caer waen, yn ucheldir deheuol y Nant, wrth droed creigiau geirwon a rhamantus Cwm y Dulyn, ac os oes rhyw wirionedd yn y dybiaeth fod gan olygfeydd bro ein genedigaeth rywbeth a wnelont â ffurfiad ein cymeriad meddyliol, ceir engraifft hapus o hyny yn y Parch. R. Jones. Ymddengys na fwynhaodd efe mwy nag ereill o'i oedran, nemawr o fanteision addysg yn moreu ei oes; oblegid nid oedd un ysgol ddyddiol yn cael ei chadw gyda dim cysondeb yn Llanllyfni y pryd hyny. Weithiau byddai dynion wedi methu gyda'u masnach neu ei galwedigaethau, oherwydd anallu neu ddrwg-fuchedd, yn taro ati i gadw ysgol; ac yn nwylaw y dosbarth hwn yr oedd yr holl addysg a gyfrenid 60 neu 50 mlynedd yn ol. Ymddengys fod Mr. Jones yn teimlo ar hyd ei oes oddiwrth yr anfantais hon. "Y mae diffyg manteision dysgeidiaeth," ebe fe, "yn un diffyg pwysig, y mae yn