Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diffyg y mae yr ysgrifenydd wedi ei deimlo yn ddwys yn wyneb llawer o anturiaethau a gymerodd mewn llaw." Ond cydgyfarfyddiad amgylchiadau ffortunus a roes fodd iddo ymroddi i ddarllen, myfyrio, a chyfansoddi, fel y cydnebydd yn y geiriau canlynol:—" Yn nghanol pob anfanteision cafodd lonyddwch rhagorol oddiwrth drafferthion bydol am lawer o flynyddoedd. Trefnodd Rhagluniaeth fawr y fraint hon iddo, trwy gael gwraig ffyddlawn ac ymroddgar, i gymeryd arni ei hun ei holl ofalon bron yn hollol. Gwnaeth hyny hefyd yn dra ewyllysgar a dirwgnach. Y mae wedi gwneyd mwy iddo ef yn yr ystyr yma nag a wnaeth pawb arall yn nghyd."

Yn mlynyddoedd cyntaf ei ieuenctyd bu y Parch. R. Jones yn dilyn yr arfer gyffredin i fechgyn y gymydogaeth hon, sef Rybela; ond ni wnaeth nemawr gynnydd yn y ffordd hono,—llyfrau, nid llechau gaent ei sylw. Yr oedd rhywbeth yn esgeulus bob amser o amgylch ei berson, ni chymerai ond ychydig o ofal am ei wisg na'i ymddangosiad. Y mae yn ymbarchedigo wrth heneiddio, ond y mae esgeulusdra yn nodweddiadol ohono eto. Ni chymerodd erioed drafferth i ddeall y natur ddynol, yr hyn a fu yn achlysur i rai tramgwyddiadau ac anffodion. Dechreuodd bregethu yn y Felingeryg tua'r flwyddyn 1834, a chafodd ei ordeinio yn 1836, ac er y pryd hyny llafuriodd bron yn gwbl yn yr un ardal. Llwyddodd i gasglu llyfrgell helaeth, yr hon a gynnwysa ddetholiad o'r llyfrau goreu ar Dduwinyddiaeth. Darllenodd amryw o'r Puritaniaid yn fanwl, ac y mae yn gartrefol yn ysgrifeniadau Dr. Owen, Goodwin, Charnock, Howe, &c. Cyhoeddodd amryw o lyfrau—y penaf yw ei gasliad o Emau Duwinyddol. Caffed hir ddyddiau, a phrydnawnddydd tawel a llwyddiannus.

Y PARCH. WILLIAM HUGHES

Y Parch. William Hughes, Coed Madog, gweinidog perthynol i'r Methodistiaid a anwyd Nadolig, y flwyddyn 1818. Y mae efe yn ŵyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf o eiddo'r un cyfundeb a godwyd yn Llanllyfni. Oherwydd yr un rhesymau ag a nodwyd mewn cysylltiad â'r Parch. R. Jones, ni fwynhaodd Mr. Hughes fanteision addysg foreuol; ond pan yn 17eg oed aeth i'r ysgol i Gaerlleon, at un o'r enw Mr. Edgar, lle yr arhosodd am ysbaid blwyddyn. Yn 1840, dewiswyd ef yn ddiacon yn eglwys Llanllyfni; ond mewn canlyniad i'w ymuniad mewn priodas a Miss Hughes, Ty'n y Weirglodd, symudodd i gymydogaeth Talysarn, ac ar gais yr eglwys yno dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1844. Ordeiniwyd ef yn 1859, ac efe hefyd ydyw cyfrifydd (clerk) cloddfa Penybryn er's llawer o flynyddoedd.

Ystyrir y Parch. W. Hughes yn ddyn o synwyr cryf a barn aeddfed; ond fel traddodwr nid yw ond lled afrwydd ac annyben, Y mae yn fanwl yn newisiad ei eiriau: ond nid yw yn meddu y feistriolaeth hono ar gyflawnder iaith ag sydd yn cyfateb i'w chwaeth, tra mae ef yn dethol y geiriau mwyaf detholedig, y mae y gwrandawyr wedi cipio i fyny ei feddwl, ac yn dysgwyl wrtho. Ond ag eithrio y pethau uchod nis gellir