Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael gwell pregeth, cyfansoddiad mwy diwastraff, a synwyr cryfach. Nid oes ganddo yr hyn a elwir hyawdledd, ond y mae ganddo ystor o'r hyn sydd annhraethol brinach a gwerthfawrocach—synwyr a phrofiad helaeth. Yn ei holl ymdrafodaeth â'r byd a phethau gwladol, yn gystal a materion eglwysig, y mae bob amser yn bwyllog, yn gynnil, ac eto yn benderfynol. Y mae yn ffyddlon iawn gydag achos addysg, yn ysgrifenydd i'r pwyllgor mewn cysylltiad â'r Ysgol Frytanaidd yn Nhalysarn, ac yn gadeirydd i'r Bwrdd Ysgol dros blwyf Llanllyfni. Y mae yn is mhob ystyr yn gymeriad gwerthfawr mewn cymydogaeth.

Y PARCH. EDWARD WILLIAM JONES

Gweinidog presennol eglwysi yr Annibynwyr yn Talysarn, a anwyd yn agos i Bont Robert, Tachwedd 29ain, 1829. Yr oedd ei fam yn ferch i fardd a adweinid yn y gymydogaeth hono wrth yr enw Eos Gwynfal. Pan oedd Edward tua thri mis oed bu farw ei fam, a rhoddwyd yntau at ei fodryb i'w fagu. Amlygodd duedd at bregethu yn dra ieuanec, dringai i ben ystol i ddynwared pregethu, ac y mae yn y teulu hwnw un gadair neillduol a elwir Pulpud Edward Bach hyd heddyw. Adroddir iddo unwaith ymollwng i bregethu wrth ddanfon ciniaw ei ewythr trwy goed rhyw foneddwr, a'i destyn oedd, "Onid edifarhewch chwi a ddifethir oll yn yr un modd." Ond pan oedd mewn hwyl yn darogan cwymp arswydus ei wrandawyr (y coed), clywai lais yn ateb y tu ol iddo ac yn dywedyd, "Edifarhau neu beidio, cant eu tori i lawr eleni i gyd." Safai y goruchwyliwr gerllaw, yr hyn a roes derfyn ar y gwasanaeth y tro hwnw. Adroddir am dro arall pryd y pregethai i nifer o ddefaid, oblegid bu Mr. Jones yn fugail defaid cyn bod yn bregethwr a bugail eglwys. Yr oedd yn mysg y gwrandawyr, y tro hwn, Nany Goat, a phan oedd y pregethwr yn pwyntio at y gwrandawyr, meddyliodd y Nany Goat fod ei urddas yn cael ei sarhau yn ormodol, a rhuthrodd yn erbyn y llefarydd, ac oni bai i ymwared gael ei estyn yn brydlawn gan ddyn a ddamweiniai fod yn sylwi, buasai yn debyg iawn o gael ei niweidio.

Ar ol treulio ei amser yn yr athrofa, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi Talysarn a Drwsycoed i ddyfod i bregethu iddynt hwy, ac i'w bugeilio; ac ordeiniwyd ef yn Nhalysarn Mai 21ain, 1856. Nid oedd rhifedi yr eglwys hon y pryd hyny ond 30, ond y mae erbyn hyn yn rhifo 140 o aelodau. Fel pregethwr, cyferfydd yn Mr. Jones lawer o anhebgorion pregethwr da—corph grymus, ymddangosiad gwrol, a llais cryf eglur. Nid yw yn arfer ehedeg yn uchel, na chloddio yn ddwin, ond cedwir mewn golwg amcan mawr y weinidogaeth yn ei bregethau, sef ymgais i argyhoeddi pechaduriaid. Nid yw un amser yn ceisio ymgyrhaedd at yr hyn sydd uwchlaw deall ei wrandawyr, ond rhaid i bawb gydnabod nad amcan i ymddangos yn fawr, ond bod yn ddefnyddiol, sydd ganddo. Rhydd ei gefnogaeth fwyaf rhwydd i bob symudiad daionus yn ei ardal, er y dymunem iddo gymeryd mwy o flaenoriaeth gyda'r cyfryw. Ychydig a ysgrifenodd; ond argraffwyd traethodyn o'i eiddo yn ddiweddar yn rhoddi hanes "Dechreuad a chunnydd Annibyniaeth yn