Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nhalysarn." Ar y pryd yr ydym yn ysgrifenu y mae Mr. Jones ar ymweliad â gwlad y gorllewin.

Y PARCH, E. J. EVANS

Gweinidog presennol, eglwysi yr Annibynwyr yn Pisga a Phenygroes, sydd enedigol o Amlwch, yn Mon; ac ar orpheniad ei efrydiaeth yn y Bala a neillduwyd i'r weinidogaeth, trwy ddewisiad yr eglwysi uchod, yn y flwyddyn 1855, ac er y pryd hyny y mae wedi llafurio yn y cymydogaethau hyn gyda graddau helaeth o lwyddiant. Bendithiwyd ef ag un o'r lleisiau mwyaf ardderchog, yr hwn sydd yn cydweddu yn dda âg arddull ei gyfansoddiad, yr hwn sydd yn tueddu yn gyffredin at y cyffrous a'r dychrynllyd. Nid yw Mr. Evans wedi arfer ymyraeth dim âg unrhyw faterion politicaidd nac addysgol; fel pregethwr yn unig yr adwaenir ef, a byddai yn dda pe dilynai mwy ei esiampl o'r rhai sydd yn ymrwystro gyda phethau cyffelyb, a thrwy hyny yn colli llawer o ysbryd a naws yr efengyl.

Y PARCH. ROBERT THOMAS

Bugail yr eglwys Fethodistaidd yn Llanllyfni, sydd enedigol o Fangor. Bu am ysbaid o amser yn athraw ysgol ragbaratoawl Clynnog, fel olynydd i Dewi Arfon; ond yn fuan derbyniodd alwad yr eglwys hon i ddyfod i'w bugeilio, a'r hyn y cydsyniodd. Dywedir ei fod yn bregethwr galluog, ac yn cael ei hoffi yn fawr fel gweinidog a bugail ffyddlon ac enillgar.

Y PARCH. JOHN ROBERTS, YR YNYS

Sydd weinidog yn ngyfundeb y Bedyddwyr. Dechreuodd Mr. Roberts ei yrfa grefyddol a gweinidogaethol gyda'r Bedyddwyr Albanaidd, ond cyfnewidiodd yn ei olygiadau ac ymunodd â'r Hen Fedyddwyr. Y mae yn bregethwr llithrig a chymeradwy.

MR. EVAN OWEN

Sydd bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid yn Nantlle, ac wedi cyrhaedd y safle hono yn ei gyfundeb a ddynodir a'r ymadroddion "wedi ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol." Dechreuodd bregethu yn Llanllyfni yn y flwyddyn 1854. Y mae ynddo duedd a chwaeth gref at hynafiaethau, ac wedi talu sylw mwy na'r cyffredin i'r gangen hono o lenyddiaeth.

Heblaw y rhai a enwyd y mae yma rai dynion ieuanc wedi dechreu pregethu, megys Morris Jones a William Williams, y rhai a ystyrir yn fechgyn pur addawol. Ac yn nghymydogaeth Clynnog y mae amryw yn aros er mwyn cyfleusdra addysg, y rhai nad ydynt yn dal perthynas neillduol â'r Nant. Yr ydym mewn anfantais i wneyd unrhyw nodion o berthynas i ficer presennol Clynnog, y Parchedig Mr. Price, diweddar o Landwrog Uchaf, amgen na'i fod yn foneddwr a phregethwr derbyniol a