Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chymeradwy. A phe byddai yn briodol i'r ysgrifenydd grybwyll rhyw beth am dano ei hun, gallem ddweyd ei fod yn ymdrechu dilyn yn llwybrau yr enwogion y cyfeiriwyd atynt. Ordeiniwyd ef yn Talysarn yn 1864, mewn cysylltiad â'r eglwys Fedyddiedig yn y lle hwnw, ac i'r hon, yn fwyaf neillduol, y mae ei wasanaeth yn rhwymedig hyd yn awr.[1]

Y PARCH. D. LL. JONES, M.A., LLANIDLOES

A mab y diweddar Barchedig John Jones, Talysarn, a ddechreuodd bregethu yn 1863. Cafodd Mr. Jones fanteision goreu yr ysgolion cartrefol ac athrofeydd enwog y Bala ac Edinburgh; ac ystyrir ef yn ysgolhaig o radd uchel. Cyferfydd ynddo hefyd luaws o elfenau poblogrwydd ei barchedig dad. Ymddangosiad personol teg, llais peraidd grymus, a meddwl athrylithgar a ffrwythlawn. Ymsefydlodd fel bugail yr eglwys Fethodistaidd yn Llanidloes y flwyddyn hon; ac y mae ar fin cael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Arno ef y disgynodd mantell "pregethwr y bobl" ac y mae ei gyfundeb yn dysgwyl llawer oddiwrtho fel ffrwyth yr efrydiaeth fanwl yr aeth efe trwyddi. Ei brif ddiffyg fel pregethwr, fe ddichon, yw ei fod yn rhy gaeth a chlasurol i'r cyffredin, ond bydd ei ymarferiad a'i brofiad yn debyg o'i ddwyn i ymwneyd yn helaethach â phethau y rhai nas gallant, oherwydd anwybodaeth a diffyg dysgeidiaeth, werthfawrogi ymdrechion y gwyr ieuainc sydd wedi eu mwynhau. Bydded iddo hir ddyddiau i wasanaethu ei genedl, ac na fydded hyd yn nod yn ail i'w dad mewn dylanwad a phoblogrwydd.

PENNOD III.
Parhad Hanes Presennol.

Ni fyddai yn briodol ini esgeuluso gwneyd rhai crybwyllion am y Beirdd ag sydd ar hyn o bryd yn byw o fewn ein terfynau. Nid oes genym yn awr yr un Eben Fardd yn mysg y beirdd, mwy na John Jones yn mysg y pregethwyr—neb ag sydd yn hawlio blaenoriaeth amlwg ar bawb ereill: er fod genym yn awr amryw o feibion athrylith a phlant yr awen yn ein mysg. Yn mysg y rhai hyn, rhaid ini gael ein hesgusodi am ein bod yn dewis talu parch i henafgwr, trwy enwi yn flaenaf Yr Hen Glochydd, Mr. Robert Ellis o Lanllyfni. Byddai yn anhawdd treulio prydnawngwaith difyrach nag yn mynwent St. Rhedyw, yn nghwmni y dyddan Robert Ellis. Er's deugain o flynyddau y mae ef yn gwasanaethu yn yr eglwys hon. Gweinyddodd yn nghladdedigaethau dros 1900 yn y fynwent hon yn unig! Y fath lu a adgyfodir o'r llanerch dawel yma! Y mae Mr. Ellis hefyd yn fardd da, ac wedi cyfansoddi

  1. Ychwanegwyd y sylw diweddaf at y Traethawd ar ol yr Eisteddfod.—MAELDAF HEN.