llawer iawn o garolau plygain, englynion beddargraff, amryw o ba rai a geir wedi eu cerfio ar feddau yn y fynwent. Cyhoeddodd gyfrol o'i garolau, &c., er's blynyddau yn llyfr swllt; ac heblaw ei fod yn awdwr i'r carolau, gallai eu datganu hefyd yn ardderchog, gan ei fod yn gerddor yn gystal ag yn fardd, ac felly o wasanaeth deublyg yn yr eglwys. Buasai yn ddymunol genym adysgrifenu esiamplau o 'Awen Llyfnwy,' sef llyfr Yr Hen Glochydd; ond boddloner ar ddim ond y ddau englyn canlynol, y naill ar fedd Dafydd Jones, meddyg, &c., a'r llall ar Wagedd y Byd:
Er meddu ar y moddion—a wellaent
Ereill o glefydon;
Angeu trwch i'r llwch-gell hon
Yma ddwg y meddygon.
ETO
Gwagedd'yw'r byd a gwegï,—a'i olud
Sydd wael i'w drysori ;
Pryfyn a rhwd wna'n profi,
Gwael yw yn awr—gwelwn nî,
Nifer o flynyddoedd yn ol darfu i Gwmpeini Chwarel y Cilgwyn adeiladu palasdy prydferth ar fron y Cilgwyn, gerllaw y gloddfa; ond oherwydd rhyw amgylchiadau anhysbys ini ni ddaeth neb iddo i gyfaneddu fel y bwriadwyd. Ac oherwydd hyny y werin anonest a breswylient y mynydd-dir a ddifrodasant y palasdy, cariasant ymaith ei ffenestri, ei ddrysau, ei goed, a'i do, a'r cwbl oedd yn symudadwy oddiyno, fel na adawyd o'u hol ond darnau o'r muriau moelion i goffau am yr amgylchiadau gwaradwyddus a diraddiol. Yr oedd yn y gymydogaeth yma ar y pryd un o'r enw Richard Owen yn byw yn y Machine (yn awr o Bethesda), yr hwn a gyfansoddodd y gan ganlynol i'r "Lladron a dorasant Blas y Cilgwyn," a chan fod Mr. Owen yn frodor oddiyma, a'r amgylchiad yn dal perthynas a'r lle hwn, fe'n hesgusodir am osod y gan awgrymadol hon ger bron y darllenydd yn gyflawn:
I ba beth y tawn a son
O'n calon pa'm y celwn?
Ni bydd ini unrhyw loes
O achos ini achwyn,
'Does neb yn caru'r lladron cas
Fu'n tori Plas y Cilgwyn.
Na fyddwch llonydd, wyr y llys,
Ag 'wyllys dowch i gynllwyn,
I godi'r bradwyr gyda brys
Fel Moses rhowch gomisiwn-
I ddal o'u cwr y lladron cas
Fu'n tori Plas y Cilgwyn.