Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eto ar yr un testyn:

Trwy lesgedd i'r bedd y bu—ei fer hynt,
Rhoes fawrhad ar Gymru;
Ni faidd y Werydd fyddaru
Ei phrudd dòn am ein hoff Fardd Du.

Eto i'r Hwrddlong (buddugol):

Y gallestr hwrddlestr ar wyrddli-moria
Heb gymhares iddi;
Ah! drwyn dur i drin deri,
Ni thal coed dan ei thwlc hi.

Gellid ychwanegu toraeth o gyffelyb engreifftiau, pe byddai angen, er dangos nodwedd yn gystal a gallu barddonol Hywel Tudur.

LLWYDLAS

William J. Roberts, yr hwn a adnabyddir wrth y ffugenw Llwydlas, sydd enedigol o Rhostryfan, ond yn awr yn byw yn Mhenygroes. Y mae efe yn frawd i'r diweddar athrylithgar Glasynys, yr hynafiaethydd a'r bardd enwog. Nid yw Llwydlas wedi cyrhaedd safle ei frawd, nac yn debyg o wneyd, eto, y mae yntau yn fardd rhagorol, ac wedi cario ymaith lawryf buddugoliaeth mewn cyfarfodydd pwysig. Ni a ddodwn o flaen y darllenydd ddyfyniad byr o'i Gywydd i'r bedd, nid am ei fod yn rhagori ar luaws o gyfansoddiadau ereill o'i eiddo, eithr am ei fod yn dygwydd bod wrth ein llaw.

Y baban glwys, dwys i'w daith,
Er ameu fwrir ymaith,
I annedd dywell unig,
Oerni, a'i drem arno drig:
Ei wridog rudd roed i'w gro,
Fel ereill i'w falurio;
Dwg yr ifanc digrifol,
Er ei nwyd i'r âr yn ol;
Y wyryf deg, araf dygir,
Hon i gell ei dywell dir;
A'r ywen brudd ya enhuddo,
Ei gŵyl rudd, mewn gwely o ro,
Y cristion, &c., &c.

JOHN O. OWENS, NEU IOAN WYTHWR.

sydd enedigol o Dalysarn, chwarelwr wrth ei alwedigaeth, a llenor gobeithiol. Bu yn fuddugol mewn amryw ymdrechiadau llenyddol yn y gymydogaeth; a'r flwyddyn ddiweddaf ymhyfhaodd i ymdrechu lam y