Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y foneddiges a garai mewn sefyllfa i ymddwyn tuag ato fel ei ddyweddi."

"Nid yw yn weddaidd i mi ofyn pa fodd yr ydwyt mor sicr ynghylch cyflwr serch Ifor, ond byddai'n foddhad i mi gael eglurhad, os yw pethau fel yr wyt ti'n datgan, paham na anfonodd Ifor ei hun yr un gair i mi yr holl amser er pan y gwelais ef ddiweddaf i'm hysbysu pa le yr oedd, a pha beth a ddigwyddasai iddo?"

Yn ateb i'w chwestiwn, adroddodd Wil wrthi hanes ei gyfarfyddiad âg Ifor nos Gwyl Fair, ei waith a'i amcan yn mynd i Glan y Don i'w rhybuddio rhag dichellion Breddyn a'i gwmni, y modd y gwenwynwyd ef, mor agos y bu i angeu, a siomedigaeth pawb pan ddeallasant ar ol iddo ddechreu cyfodi o'i wely a symud o amgylch ei fod wedi colli ei gôf yn hollol, beth bynnag am ryw radd o'i synwyr.

Collodd Delyth dyner-galon lawer deigryn cuddiedig wrth wrando stori gynhyrfus Wil, ond yr oedd yr eglurhad ar ddistawrwydd maith Ifor, er yn boenus dros ben, mewn un ystyr yn falm i'r teimladau clwyfedig a hanner feithrinai wrth ofni ddarfod iddo ei hanghofio a'i dileu o'i fywyd.

"Wyt ti'n credu y daw daioni o gario allan gyngor y meddyg?"

"Ydwyf."

"Wyt ti'n credu hefyd ei fod yn bosibl i fy mhresenoldeb i effeithio ar Ifor yn y modd y cyfeiria'r meddyg ato?"

"Mae'n amhosibl i mi beidio credu ar ol gwrando'i eglurhad."

"Beth wyt am i mi wneyd?"

"Gadael popeth ar unwaith, a dyfod i Neuadd Urien i wneyd yr hyn a elli i adfer y dyn gore w'i'n adnabod i lawn feddiant o'i gôf a'i synwyr."

"Beth os methaf yn gydwybodol weld fy ffordd yn glir i ddyfod?"

"'Rhaid i mi gymeryd Breddyn Kemys ato!"

"Na ato Duw! Nis gelli fod o ddifrif wrth freuddwydio am y fath beth."

"Ni bum yn fwy difrifol yn fy mywyd. Yn ol y meddyg o Myddfai, yr unig beth ddaw a chôf a meddwl fy nghyfaill i'w le yw ysgytiad hollol anisgwyliadwy. A rhaid iddi gael ei gweinyddu gan un y bydd ei ymddanghosiad yn unig, heb son am