Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pennod XIV.

NID oes afon ardderchocach yn holl Gymru na'r afon Tywi, yn sir Gaerfyrddin, ac nid oes dyffryn mwy prydferth a rhamantus yn holl Brydain na'r hwn trwy ba un y rhed ei dyfroedd gloewon tua'r môr. Nid rhyfedd i Giraldus, a Dyer, a Theilo ddweyd pethau mor ogoneddus am ramantusrwydd yr afon bur a'i dyffryn tlws; oblegid y mae'r olwg arnynt o lawer man yn ddigon i danio awen Rwsiaidd i ganu eu clodydd.

Ar lan y Tywi, ac ynghanol un o lanerchau mwyaf ffrwythlon ei dyffryn y safai y Neuadd Fach, un o amaethdai mwyaf adnabyddus gwaelod sir Gaerfyrddin. Ac yma y preswyliai,—ie, ac y llywodraethai,—Mwynwen Huw, gweddw Tegid Huw, a chwaer mam Megan. Hen Gymraes drwyddi oedd Mwynwen, dipyn yn ofergoelus, braidd yn anwybodus ynghylch darllen ac ysgrifennu a phethau cysylltiol; yn credu'r gwaethaf am y Saeson a'u hiaith, a nemawr byth yn tywyllu drws eglwys y plwyf; ond nid oedd gardotyn yn gofyn "cardod" wrth e drws heb gael ei ddiwallu, na neb o'i chymdogion yn gofyn cymwynas oddiar ei llaw, heb ei derbyn. Yr oedd ei lletygarwch. yn ddiareb trwy yr holl ardal, a chymeriad ei mêdd, ei chwrw, ei chaws, a'i hymenyn yn cael ei gymeryd fel safon i farnu gwerth y pethau hynny trwy bron hanner y sir.

Yr oedd Mwynwen yn enwog hefyd am ei hoffder o gân a thelyn, ac ni thynnai y llinyn yn erbyn dawns ambell dro, os byddai'r dawnswyr yn fucheddol a phur eu moesau.

Yr oedd amaethdy y Neuadd Fach wedi ei adeiladu ar raddfa eang, a pherthynai iddo un ystafell nad oedd ei chyffelyb yn un man tu allan i balasdai y gymdogaeth. Ystafell hirgul oedd, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan trwy furiau trwchus i dri neu bedwar o gyfeiriadau. Yr oedd Meistres Huw yn meddwl cryn lawer o'r ystafell hon. Trwy ei pherchenogaeth o honi, yr oedd wedi dod yn wraig o gryn bwys ac awdurdod. Cynhelid ynddi lawer o gyfarfodydd nosawl a adnabyddid yn yr amser