i ni gadw hynny yn ddirgel rhagddynt nes byddont yn ddigon pell. Gofala gloi'r drws ar bawb ereill oddiallan, ar ol i'r hen ŵr dy ganlyn i'r tŷ."
Pan oedd Megan yn rhoi'r cyfarwyddiadau hyn i'w modryb gydag awdurdod un oedd yn gwybod i'r llythyren beth oedd raid wneyd, yr oedd ei meistres yn ei hystafell yn trefnu ei meddwl, ac yn gweddio am nerth i wynebu prif argyfwng ei bywyd.
Ar ol iddi gael ychydig funudau i sylweddoli y sefyllfa, gwnaeth ei meddwl i fyny yn gyflym pa linell a gymerai, a phan yn ymgynghori â Megan a Gwladys, ynghylch hysbysu Ifor a Wil am bresenoldeb y milwyr, a'u hannog i beidio dangos eu hunain er dim, gan fod nifer y gelyn yn rhy liosog i wneyd dim ond rhoddi ufudd-dod tymhorol iddo, ymddanghosai fel pe na wyddai ystyr perygl.
Pan welodd y Cwnstabl ei gwyneb gwyn, penderfynol, yn dyfod i fewn trwy ddrws yr ystafell fawr, mynnodd y teimlad tadol ynddo ei ffordd er gwaethaf ei ragfwriadau gofalus, a symudodd yn gyflym tuag ati a'i freichiau yn agored i'w chofleidio, ond cyn iddo symud dau gam, clywodd ei llais yn gorchymyn iddo mewn acenion mor oer a phe baent yn disgyn oddiar wefusau delw o fynor, i aros yn y fan lle'r oedd ar ei berygl, nes y clywai beth oedd ganddi i'w ddweyd.
"Ai dyna fel yr wyt yn cyfarch dy dad, ferch anaturiol?"
"Fy nhad! Gwae fi fod yr hwn a eilw ei hun yn dad i mi, yr hwn fu unwaith mor dyner wrthyf ac mor anwyl o honof; ie, a'r hwn addawodd i fy mam ar ei gwely angeu y gwnai fy nedwyddwch yn brif amcan ei fywyd, wedi caledu ei galon i'r fath raddau at ei unig blentyn fel ag i droi'r clust fyddar at apeliadau mwyaf angerddol ei henaid, a gwneyd hyn oll yn groes i'w farn a'i deimladau ei hun ar orchymyn gormeswr sydd yn ddigon anhosturiol, anynol, a didrugaredd i gerdded dros unrhyw nifer o galonnau toredig i gyrraedd yr amcan lleiaf o eiddo'i hun."
"Fy merch! Fy merch! Ai dyna'r modd yr wyt yn llefaru am offeiriad Duw, a gwas Ei eglwys?"
"Pa fodd yr wyt yn disgwyli mi lefaru? Os wyf i gymeryd ei ymddygiad creulon at ferch amddifad yn argyfwng mwyaf ei