diffodd fy serch tuag atat mewn un modd. Y gofyniad wyf am i ti ei ateb yn eglur yw hwn,—os addawat ddod yn ol i'r Castell, wnei di addaw na fydd i ti fy ngorfodi, yn erbyn fy ewyllys, i briodi Breddyn Kemys?"
"Os addewi ddod? Nid gyda thi y mae'r dewisiad o ddyfod neu beidio yn gorffwys."
"Gyda fi yn unig."
"Wyt ti wedi gweld y milwyr?"
"Ydwyf, a'u cyfrif hefyd."
"Wel!"
"Gallant gymeryd fy nghorff marw yn ol i Gasnewydd, ond pe bae gennyt gan mil ohonynt, ni chânt fy nghymeryd i yn fyw o'r ystafell hon heb i ti roi dy addewid ar dy lw na fydd raid i mi byth briodi yr anfad-ddyn yna."
"Yr wyt yn llefaru fel un o'r ynfydion. Tydi fydd yn rhaid cymeryd dy lw, nid myfi, a'r llw."
"Gwrando, fy nhad! Os bydd i ti godi dy fŷs, neu dy lais i alw ar Breddyn neu y Tad Meurig, byddaf yn farw wrth dy draed y funud nesaf. Os na ro'i dy addewid ar dy lw na fydd i ti byth fy ngorfodi i briodi Breddyn cyn symud cam o'r fan lle'r ydwyt, cei gario fy nghorff adref i'w gladdu, ond ni chei gario Delyth Kyffyn yn ol yn rhwym nac yn rhydd. Ti weli fy mod yn arfog. Mae gennyf wenwyn yn fy llaw chwith, y llawddryll hwn yn fy llaw ddeheu, a bidog Yspaenaidd yn fy mynwes. Yr wyf wedi hysbysu fy lletywraig a fy morwyn cyn iddynt gloi y drysau arnom na byddant yn debyg o weld fy wyneb mwy yn y bywyd hwn. Os nad oes gennyt ragor i'w ddweyd, fy ngeiriau olaf cyn mynd at fy mam ydyw,—rhodded Duw faddeuant."
"Fy merch! Fy merch! Atal dy law, a gwrando! Nid wyf fawr gwell na bod yn garcharor yn llaw Breddyn Kemys. Oherwydd rhyw eiriau bygythiol ddywedaist wrtho y diwrnod cyn i ti ddianc, y mae yn ofni, os nad yn llwyr gredu, fod Meistr Ifor Owain yn fyw. Yn wir, ofnai dy fod wedi ffoi o'r Castell dan ei nawdd, ac wedi ei briodi. Pe buasai hynny wedi digwydd, yr oedd wedi cael addewid dy gyffesydd i gyhoeddi'r briodas yn anghyfreithlon, ac oherwydd bygythion y ddau, rhoddais innau fy addewid i gydsynio, gan obeithio na chaent wybod pa