Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

le yr oeddet. Wedi i fam Megan ei hysbysu pa fodd i ddod o hyd i ti, ni orffwysodd nes cael cenad awdurdodau milwrol y sir i gymeryd cant o filwyr i'w gynorthwyo i wneyd rhyw wasanaeth i achos y Teyrngarwyr, a chan nas gallai yn gyfreithlon dy hawlio di i ddychwelyd heb fy awdurdod i, yr wyf wedi gorfod ei ganlyn. Gweli felly nad ydyw fy addewid i o ddim gwerth i ti. Rhaid i ti gytuno â Breddyn a'r offeiriad!"

"Nid oes yr un gallu ar y ddaear a'm gorfoda i wneyd hynny." "Beth arall sydd yn bosibl i ti ei wneyd?"

"Os gwnei di addaw i mi ar dy lw na wnei fy ngorfodi, beth bynnag wna Breddyn, a beth bynnag fygythia'r offeiriad, dychwelaf. Dengys Duw ryw ffordd i mi yn y dyfodol, fel y gwnaeth yn y gorffennol, i orchfygu gelyn mor felldigedig a Breddyn. Gad i mi deimlo'n sicr fod fy Nuw a fy nhad o'm plaid, ac nid ofnaf beth a ddigwydd i mi."

"Os mai ar allu Meistr Owain i dy waredu yr wyt yn seilio dy obaith, ofnaf nad oes dim ond siomedigaeth chwerw yn dy aros."

"Na, nid yn Meistr Ifor Owain yr wyf yn ymddiried. Gelli hysbysu Breddyn nad oes raid iddo ofni yr un gwrthwynebiad ar ran Ifor Owain yn bresennol."

"Felly, nid oes sail i'w gred fod Meistr Owain wedi dy gynorthwyo i ddianc?"

"Nis gwyddai Meistr Ifor fwy am fy nghynllun i ddianc na'r marw yn y bedd."

"Os gallaf lwyddo i'w argyhoeddi ef a'r offeiriad fod hynny yn wir, bydd yn hawdd i mi gael eu haddewid i'm gadael i dy gymeryd gartref dan fy ngofal personol fy hun."

"Yn gyntaf, rhaid i ti addaw ar dy lw yr hyn wyf am ofyn gennyt."

"Ar fy ngair a'm cydwybod, ac yn enw Duw, a dy fam, a Sant Mair, yr wyf yn addaw."

Wedi iddo gymeryd y llw, anghofiodd Delyth ei ffaeleddau a'i wendidau, a chofleidiodd ef fel yr arferai wneyd cyn i'r caplan ddyfod rhyngddynt, ac ymyraeth â'u bywyd teuluol hapus.

Ar ol i'r Cwnstabl sicrhau ei gyd-gynllwynwyr o absenoldeb Ifor Owain o'r holl anturiaeth, o addewid Delyth i ddychwelyd i'r Castell ar y telerau nad oedd neb ond ei thad i gymeryd