gofal o honi ar y daith, ac o'i phenderfyniad i wenwyno ei hun os na chai yr amod hon ei chadw'n llythrennol, gwnaed trefniadau i borthi'r milwyr a'u hanifeiliaid, ac yn ddiweddarach, ar ol gorffwys ysbaid, i ddychwelyd i Gasnewydd.
Pan yn symud yn araf trwy Laneurwg y noswaith olaf cyn cyrraedd Casnewydd, llwyddodd cariad-filwr Megan i roddi llythyr yn ei llaw heb i neb sylwi arno. Wedi cyrraedd ei hystafell ganol nos, darllennodd y geiriau calonogol canlynol i'w meistres,—
Gorchwyl caled oedd ufuddhau i dy orchymyn, a chuddio ein hunain, ond gwnaethom yn ol a ddywedaist. Cawsom wybod gan gaethwas ffyddlon Megan bopeth a ddigwyddodd, ynghyd â'r telerau ar ba rai yr ydwyt yn dychwelyd adref. Na ddigalona, yr ydym yn dy ddilyn. Bydd fy nhad, a minnau, a Wil yng Nglan y Don cyn y bore. Ymdrechwn gadw ein presenoldeb yno yn ddirgel, a mynegwn i ti, os gallwn, trwy Megan a'i chyfaill, pa gam fydd y nesaf, a'r doethaf, i ti i'w gymeryd i ad-ennill dy ryddid.—IFOR OWAIN."