Pennod XV.
PAN oedd prif gymeriadau yr hanes hwn yn mynd trwy y profiadau cyffrous groniclwyd yn y penodau diweddaf, bu datblygiad pwysig i'r ymgyrch fawr rhwng y Brenin Siarl a'r Senedd. Troisai pob ymdrech at ddwyn y pleidiau ynghyd yn fethiant, 'roedd Siarl mewn llawn ymddiried yn ei anffaeledigrwydd ei hun, ac yn "Iawnder Dwyfol Brenhinoedd" wedi cyfodi ei Faner yn Nottingham. Dilynwyd ef yno gan Iarll Essex, i'r hwn yr oedd Ficer Prichard, Llanymddyfri, yn gaplan; a phan yn encilio o flaen yr Iarll tua'r Amwythig, ymunodd pendefigion a Phabyddion y wlad yn lluoedd â'i fyddin fechan fratiog nes ei chwyddo yn allu cryf a herfeiddiol. Oherwydd ei uniad priodasol â Phabyddes Ffrengig, disgwyliai Pabyddion y deyrnas bethau mawrion oddiwrth Siarl. Rhyngddynt hwy a'r Teyrngarwyr, i'r hon blaid y perthynai bron yr oll o bendefigion a boneddigion Cymru, yr oedd yn berygl bywyd i'r ychydig Seneddwyr a Phiwritaniaid a feiddient feddwl a gweithredu drostynt eu hunain yn ein gwlad ni, ddangos eu gwynebau. Dyma y rheswm am y cyfarfodydd dirgelaidd a gynhelid yn nhai personau fel Sesyl Ifan ac ereill. A dyna paham hefyd y gorfodid i fynychwyr y cyfryw gyfarfodydd gadw ysbiwr fel Wil Pilgwenlly i wylio symudiadau y gelyn, a darganfod cymaint ag a allai am eu cynlluniau a'u symudiadau, rhag iddo ruthro arnynt yn ddiarwybod a'u carcharu ar yr esgus leiaf.
Pan ddaeth y newydd i Sir Fynwy fod y rhyfel wedi torri allan mewn gwirionedd, ac fod y Brenin yn galw ar bob un oedd yn "caru ei wlad, ac yn alluog i ddwyn arfau," i ymuno â'i fyddin, daeth negesydd oddiwrth y pendefig Pabyddol, Iarll Worcester, o Gastell Raglan at Syr Nicholas Kemys o Gefn Mably yn gorchymyn iddo alw pob aelod o'r cartreflu oedd dan ei ofal a'u hyfforddi'n ddyddiol erbyn yr adeg y byddai galw am danynt. Fel swyddog yn y fyddin genedlaethol, gwysiwyd Breddyn ei nai i arfer pob brys i ymuno â'r fyddin yn yr Amwythig, ac er ei fod yn falch o'r fantais i adael Cefn Mably ac arolygiaeth ei ewythr, rhoddasai hanner ei etifeddiaeth pe gallasai ohirio'r