Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

alwad am bythefnos, er mwyn iddo gael amser i gario allan ei gynlluniau i gipio Delyth Kyffyn, ei phriodi, a dial arni am ei ddirmygu.

Gan na ddarganfyddodd ddim yn ystod ei hynt filwraidd i sir Gaerfyrddin a brofai fod Ifor Owain eto ar dir y byw, gadawodd i'w gynllwynion orffwys, ac er na newidiasai ddim ar ei benderfyniad i orfodi Delyth i'w briodi y cyfle cyntaf ar ol ei ddychweliad, yr oedd eglurhad ei thad o'r llw a orfu gymeryd cyn y symudai ei ferch gam o ystafell y Neuadd Fach wedi dymchwelyd ei gynlluniau gwreiddiol; oblegid os na chai gydsyniad a chymhorth ei thad, yr unig ffordd iddo gyrraedd ei amcan oedd ei dwyn o'r Castell trwy drais; a golygai anturiaeth felly gynlluniau newydd, llwgrwobrwyon lawer i'w gynffonwyr, a gwrhydri mawr ar ei ran ei hun. Gan nad oedd ond tri diwrnod i wneyd y cwbl cyn y byddai raid iddo gymeryd ei gwmni o filwyr tua'r Amwythig, yr oedd yn gyfyng arno o'r ddau tu.

Teimlai ambell waith, gan fod popeth yn profi fod Ifor Owain wedi mynd i ffordd yr holl ddaear, y gallai fforddio aros ychydig cyn rhuthro i eithafion; a rhoddai hynny amser i Delyth i goleddu syniadau uwch am dano. A phwy wyddai, hwyrach y gallai ennill anrhydedd ac enwogi ei hun yn y rhyfel, a dychwely yn arwr yng ngolwg ei wlad a'i genedl. Ond gwan oedd obeithion yn y cyfeiriad hwn pan alwai i gôf y pethau sarhaus a ddywedasai Delyth am dano, a'r llw y gorfu i'w thad 'i gymeryd fel amod ei dychweliad. Daeth i'r penderfyniad cyn hir mai unig ffordd i lwyddo yn ei amcan oedd cymeryd gafael ar unwaith yn Nelyth er gwaethaf pawb a phopeth, ac yna gwneyd fel y mynnai â hi.

Tra y gwibiai y pethau hyn trwy feddwl ei elyn maleisddrwg, ceisiai Ifor Owain, fel un wedi dihuno o hir drwmgwsg, sylweddoli beth a ddigwyddasai iddo. Er pob ymdrech, nis gallai gofio dim yn glir ar ol y noson y rhybuddiodd Wil ef ynghylch bwriadau a chynlluniau ei elynion i gael gwared o hono, a chymeryd meddiant o Delyth Kyffyn.

Ond os nad allai gofio dim am yr wythnosau meithion rhwng y gwenwyniad a dyfodiad Delyth i Neuadd Urien, yr oedd yn fyw i bopeth a ddigwyddodd ar ol ei hymweliad. Ac er y gwyddai am lw ei thad, yr oedd y drychfeddwl fod anwylyd ei enaid mewn