Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perygl parhaus o syrthio i ddwylaw y fath lofrudd creulon a Breddyn Kemys ymron dyrysu ei synhwyrau.

Trwy ffyddlondeb y milwr Idris, cariad Megan, gwyddai ei bod yn ddiogel mor bell, ond nis gwyddai yr awr na'r funud y rhuthrai y blaidd i gymeryd gafael ar ei ysglyfaeth, a threuliodd y noswaith gyntaf ar ol ei ddychweliad i Lan y Don gyda Wil Pilgwenlly i ddyfeisio cynllun i ryddhau ei anwylyd yn ddiymdroi o'i charchar, a phan dorrodd y wawr arnynt drannoeth, yr oeddent wedi gwneyd eu meddyliau i fyny sut i weithredu.

Nos drannoeth, pan oedd Delyth a'i morwyn yn cerdded yn ol ac ymlaen yng nghyntedd y Castell, a'r milwyr a lwythent yr arfau trysoredig yn mynd heibio iddynt yn awr ac yn y man dan eu beichiau, symudodd un ohonynt yn gyflym i ymyl Megan a sibrydodd,—

"Cyfarch fi fel y byddi'n arfer cyfarch Idris pan fydd y ddau filwr nesaf yn mynd heibio, a gofyn mor hyf a didaro ag y medri am i mi ddyfod i ystafell y Cadben, ei fod am ymddiddan â mi. Ti weli pwy ydwyf, a gelli gasglu ar unwaith sut y daethum yma."

Wedi iddo ganfod fod Megan gyfrwys yn deall y sefyllfa yn drwyadl, ac yn ddigon hunanfeddianol i weithredu yn unol â'i gyfarwyddyd, trodd at ei Meistres, a sibrydodd mewn llais oedd yn llawn o deimlad dwys,

"Trwy Ragluniaeth Duw 'rwyf wedi beiddio ac wedi llwyddo i dy ddilyn i galon dy Gastell,—dy garchar. Mae'r Arglwydd wedi cyfodi cyfaill i ni ein dau ym mherson Idris y milwr, dillad yr hwn, fel y gweli, sydd am danaf. Paid cynnyg fy ateb yma, ond dos gyda Megan i'th ystafell, ac yna gyrr hi yn ol i alw Idris at y Cadben."

Gan na lwyddodd neb, hyd yma, trwy gyfrwng iaith daearolion, i roddi desgrifiad boddhaol o ddau gariad yn datguddio eu serch y naill at y llall, ni chynhygiwn ddarlunio yr hyn gymerodd le yn ystafell Delyth ychydig funudau yn ddiweddarach, pan gyfarfyddodd y ddau ieuanc hyn â'u gilydd, "heb neb ond Duw a hwythau'n nghyd yn y gyfrinach fwyn."

Ni ddefnyddiasant ond dau air i wneyd cynnwys eu calonnau yn hysbys i'w gilydd.

Ar ei fynediad i'r ystafell, wrth fwrdd canol yr hon y safai y ferch a gymerasai feddiant llwyr o'i galon o'r funud gyntaf y