gwelodd hi, gydag edrychiad ar ei gwyneb na fethodd gwir garwr ei ddarllen erioed, nis gallai wneyd na dweyd dim ond gafael yn ei llaw, gan edrych ym myw ei llygaid, a sibrwd mewn llais isel a pherseiniol,
"Delyth!"
Ac nis gallai hithau wneyd dim oddigerth edrych i lawr yn wylaidd, a sibrwd mewn llais nas gallai ond clust carwr glywed ei holl fiwsig,
"Ifor! "
Dau air yn llamu i wefusau oedd yn fud gan angerddoldeb teimlad, ac yn mynnu, er gwaethaf mil a mwy o rwystrau, ddatguddio perthynas dau enaid i'w gilydd, a'r datguddiad yn gwneyd y ddau enaid yn un am dragwyddoldeb!
Pa angen dweyd i'r cariadon yn yr awr a ddilynodd,—Ifor yn nillad y milwr Idris, a Delyth a'r clogyn oedd am dani yn ei rhodfa hwyrol yn y cyntedd, anghofio Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth, Breddyn Kemys, Cwnstabl y Castell, a'r Tad Gyffesydd!
Aethant dros gymaint o hanes datblygiad eu serch ag oedd bosibl mewn awr. Gorfu i Ifor adrodd lawer gwaith y modd dechreuodd deimlo serch at Delyth; a gorfu iddi hithau adrodd yr un nifer o weithiau paham y dewisodd hi, "y ferch brydferthaf yn yr holl sir, ie, yn wir, yng Ngwent a Morgannwg, a ran hynny yng Nghymru," efe, Ifor Owain, o fysg yr holl foneddwyr a geisient am ei llaw a'i chalon.
Pan yn teimlo mai ychydig funudau oeddent wedi dreulio gyda'u gilydd, a bod porth Paradwys yn rhyw gul agor o'u blaen, a dwy neu dair o fysg myrdd golygfeydd gwlad cariad yn ymrithio'n raddol ger eu bron, daeth Megan a llythyr seliedig i Ifor, ac edrychai mor druenus wrth ei estyn iddo fel y llamodd Delyth tuag ati gan ofyn,
"Ydyw fy nhad yn gwybod fod Ifor?"
"Na, nid oes neb yn gwybod ond Idris, ac y mae Idris a'r holl filwyr yn gorfod ymadael am y rhyfel bore drennydd."
"Y rhyfel?"
"Ie, f'anwylyd," meddai Ifor, wedi darllen ei lythyr erbyn hyn, "mae y Brenin wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Senedd, a gorchmyna i bawb sydd yn deyrngar iddo ef i'w gynorthwyo. Clywais fod llu o foneddwyr y sir yn brysur yn casglu milwyr i