fynd i'r Amwythig er chwyddo ei fyddin. A dywed Wil Pilgwenlly fod Breddyn Kemys wedi ei wysio i brysuro gyda'i wirfoddolwyr i gyfarfod â swyddogion ereil! sydd yn cychwyn o Raglan bore drennydd."
"I Dduw y bo'r diolch! Ond pam'r wyt ti a Megan yn edrych mor resynus?"
"Mae Megan yn druenus, druan, am fod ei Hidris yn mynd i'w gadael, a minnau am
"Am beth, Ifor anwyl?"
"Am fod y llythyr hwn-yn-yn fy ngwysio innau i'r rhyfel! A golyga hynny ymadael â thi cyn braidd
"Ond nid ydwyt ti yn filwr?"
"Yr wyf yn gadben cwmni o wirfoddolwyr!"
"Ond nid wyt yn credu yn y Brenin na'i achos?"
"Nac ydwyf, ond y mae y Piwritaniaid yn ymarfogi, ac yn ymfyddino dan faner y Senedd!"
"Ifor! Ifor! wnei di ddim ymladd yn erbyn dy frenin, ac yn erbyn! O, Ifor, os gorchfyga'r Senedd y Brenin, bydd y wlad dan draed Pengryniaid a Phresbyteriaid ac Anghydffurfwyr, a ."
"A dynion dewr sy'n caru rhyddid, yn ofni Duw, ac yn barod i aberthu popeth er mwyn gweld cydraddoldeb crefyddol yn ffaith, a chyfiawnder cenedlaethol yn teyrnasu yn eu gwlad!"
"Wyt ti o ddifrif yn mynd i ymladd o blaid y Senedd, Ifor?"
"Ofnaf y bydd yn rhaid i mi fynd, neu gael fy nghyfrif yn llwfryn gan bawb o'm cydnabod a wyddant am fy egwyddorion."
"Y ti yn llwfryn?"
"Dyna'r enw roddwn arnaf fy hun pe meiddiwn aros gartref a minnau yn coleddu'r fath syniadau am yr ymgyrch ofnadwy hon."
"Wyt ti'n credu, Ifor anwyl, fod y syniadau wyt ti a minnau wedi ddadlu gynifer o weithiau, yn werth cynhyrfu'r wlad i fynd i Ryfel Cartrefol yn eu cylch, yn werth codi arfau yn erbyn y Brenin ei hun er mwyn eu hamddiffyn? "
"Dyna fy marn a fy argyhoeddiad gonest i ar air a chydwybod."
"Wyt ti yn credu y gwna Duw fendithio y fath wrthryfel yn erbyn yr awdurdodau goruchel?' 'Rwyt yn cofio beth ddywed