"Fyddi di yn rhwyfo ar yr afon weithiau?" "Byddaf yn aml."
"Os byddi'n ddigon gofalus, gelli ddod a'th fâd i fyny'r afon erbyn deuddeg nos yfory. Edrychaf am danat o ffenestr y tŵr mawr. Pan weli fi yn chwifio cadach gwyn, gelli anturio llefaru. Ond cofia fod yn ofalus rhag i ni gael ein gweld. Os darganfyddir ni, bydd dianc yn fyw yn amhosibl."
"Er dy fwyn di, byddaf yn fwy gofalus nag y bum erioed yn fy mywyd, a gelli ddisgwyl am danaf yn ddiffael. Ond nid dyna'r unig gyfarfod a gawn cyn ymadael? "
"'Rwy'n ofni y bydd raid i ni ymfoddloni, dan yr amgylchiadau, ar weld ein gilydd o'r tŵr a'r afon nos yfory."
"Sh, y mae Megan yn galw am Idris ar archiad y Cadben neu rywun. Bydd yn ofalus wrth bersonoli perchen dy wisg, Ifor anwyl. Gan fod fy nhad yn yr arfdy, a fy nghyffesydd yn Rhaglan, dôf gyda Megan i'th hebrwng trwy'r amrodfa hyd y porth cyntaf, ond cofia mai Idris ydwyt y funud y byddi tu allan i'r ystafell hon, oblegid y mae gan furiau'r Castell lygaid a chlustiau lawer ar hyn o bryd."
Pe gwybuasent pan yn cofleidio a chusanu eu gilydd y pryd hwn, faint o amser a ai heibio, faint o droion chwerwon yr aent trwyddynt, a faint o ddagrau heilltion a dywalltai naill a'r llall ohonynt cyn y caent gyfarfod wedyn, mae'n ddigon tebyg nad ymadawsent fel y gwnaethant.
Pan oedd "Idris " yn dweyd pethau ysgafn wrth Megan yn yr amrodfa, a Delyth fel meistres oedd yn bresennol i "edrych ar ol y bobl ieuainc," yn gorchymyn i'r milwr brysuro at y Cadben a anfonasai am dano, gwelsent ddrws ystafell gerllaw yn agor yn araf a thawel, ac heb aros i weld pwy oedd yno, aeth pob un i'w gyfeiriad heb gymeryd arno iddo weld na sylwi ar ddim. Wedi mynd i'w hystafell, hysbysodd Delyth ei morwyn mai yr offeiriad oedd tu cefn i'r drws, ond datganai ei chred nad oedd wedi gweld na chlywed dim i beri iddo fod yn ddrwgdybus.
Bellach, dyma ni wedi arwain y darllennydd at y digwyddiadau a gofnodir ym mhennod gyntaf ein hanes.