Tudalen:Ifor Owen.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei lawddryll yn union i gyfeiriad pen Ifor; gwelodd ef yn codi ar ei draed, yn dweyd rhywbeth wrth ei gymdeithion, ac yna yn syrthio i'r dwfr fel darn o bren.

Gwenodd y llofrudd yn foddhaus. Rhoddodd ei lawddryll yn hamddenol yn ei logell, trodd i edrych os oedd rhywun ar y bont, neu gorllaw, ac wedi gweld ei fod yn hollol ar ei ben ei hun, cerddodd yn gyflym at Borth Gorllewinol y dref, yr hwn a ddigwyddai fod yn agored. Yna rhedodd fel ewig i fyny i gyfeiriad Sant Gwynlliw, a diflannodd yn y coed tu cefn i'r eglwys heb i neb ei weld.

Yn y cyfamser, yr oedd Ifor a'i gymdeithion wedi glanio ar ochr ddwyreiniol yr afon wrth ben arall y bont, ac yn chwilio pob congl am y llofrudd. Diangodd Ifor yn ddianaf trwy iddo wneyd ei feddwl i fyny mewn eiliad pa fodd i ymddwyn pan ddeallodd ei fod yn cael ei wylio, a gwnaeth ei fwriad yn hysbys i'w ddau gyfaill mewn dwy neu dair o frawddegau byrion. Ni thynnodd ef na hwythau eu llygaid oddiar ben ac ysgwyddau y gwyliwr pan oedd y bâd yn gwneyd am ganol yr afon, felly, pan welsant y ffagl yn gadael y llawddryll, plygodd y tri eu pennau i'r bâd mewn amrantiad, ac aeth y fwled heibio heb gyffwrdd yr un ohonynt; ond yr oeddent am i'r llofrudd gredu ei fod wedi llwyddo yn ei amcan, a dyna ystyr y syrthio dros y bad i'r afon. Llwyddasant yn berffaith yn eu hamcan. Aeth y saethwr ymaith yn hollol foddhaol ei fod o'r diwedd wedi ysgubo ymaith yr unig berson a gashai â chasineb anfarwol.