Yr oedd Gwladys Ifan yn gorfforiad byw o'i chenedl yn yr holl deimladau a dyheuadau hyn. Yr oedd yn Gymraes yn yr un ystyr ag yr oedd ei chyfoeswr gogleddol, Morgan Llwyd, yn Gymro, ond fod rhagolwg Gwladys ar bethau yn fwy ymarferol nag eiddo'r proffwyd a'r breuddwydiwr o Wrecsam.
Ar ddechreu ei chyfeillach â Delyth, synnai a gofidiai fod boneddiges oedd mor hyddysg mewn cynifer o bethau, mor anwybodus o hanes ei gwlad a'i chenedl. Gwyddai Delyth bethau rhyfedd am seintiau a gwyrthiau a Phabau, ond nid oedd wedi clywed am enwau Ifor Hael na Dafydd Ab Gwilym. Yr oedd yn gelfydd tu hwnt gyda'i nodwydd a'i phwyntel i addurno allorau ac areithleoedd, ond nis gallai chware crwth na thelyn, na gwneyd un defnydd o'r droell nyddu. Yr oedd yn bur hyddysg yn hanes pererindodau i Rufain o wahanol fannau, ond ni chyfleai y gair "Eisteddfod" ddim i'w meddwl, ac yn hyn oll yr oedd Delyth yn engraifft wirioneddol o'r boneddigesau ieuainc a ddygid i fyny ym mhob teulu Cymreig Pabyddol o safle gymdeithasol weddol yn yr oes honno.
Nid oedd fawr gwahaniaeth rhwng Pabyddion ac Eglwyswyr yn y modd y dygent i fyny ac yr addysgent eu plant. Ychydig oedd nifer y rhieni a wnai ymdrech ac aberth i ddiwyllio meddyliau eu plant o safle Gymreig. Fel rheol, gwyddai merch o'r canol-ddosbarth yn ogystal a merched dosbarth uchaf cymdeithas, y ffordd i drefnu coeg-chwareuon, mygyd-ddawnsiau ac hyd yn oed ymladdfeydd ceiliogod, ond bychan iawn oedd. nifer y rhai fedrent ddarllen a deall cywydd, neu ganu hen alawon bendigedig eu gwlad.
Felly yr oedd merch fel Gwladys yn ddatguddiad mawr i Delyth Kyffyn. Edrychai i fyny ati fel at berson uwchraddol. Ceisiai ei chyfarwyddyd bron ym mhob peth, ac ni chelai rhagddi ddim o helyntion ei serch, na hanes rhyfedd ei gorffennol. Yr oedd yn hawdd i Delyth wneyd cyfrinaches o Gwladys yn y pethau hyn am fod stori ei dyweddiad i Ifor Owain bellach yn ffaith adnabyddus. Cydnabyddid hi gan hen Farwnig Neuadd Urien fel ei ferch-yng-nghyfraith ddyfodol, a derbyniai lythyrau yn gyson oddiwrth Ifor ei hun, ym mha rai y cyfeiriai at ei briodas ddyfodol fel sicrwydd gohiriedig. Mewn pethau cysegredig fel hyn, yr oedd safle Gwladys yn hollol wahanol. Gwyddai Delyth