Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn oedd yn filwr o'i febyd, farw yn yr Yspaen pan yn gymharol ieuanc, ac ni fu ei weddw fyw yn hir ar ei ol. Gadawsant ddau o blant,—dau fab,—un lawer o flynyddau yn hŷn na'r llall. Syfrdanwyd pawb yn yr ardal un diwrnod gyda'r newydd dychrynllyd fod y mab hynaf, Arthur Vychan, wedi llofruddio merch ieuanc o deulu urddasol ger llaw, yr hon, er yn Brotestant, oedd ei gariadferch; a'r un modd lladdasai ei gyffesydd, mynach ieuanc oedd yn byw yn y teulu. Cafwyd corff y wraig ieuanc yn ei gwaed ar lawr y capel, ac y mae yn ddirgelwch mawr hyd y dydd heddyw pa fodd y daeth yno. Yr oedd y cyffesydd yn ddadfyw gerllaw, a digon o anadl ynddo i hysbysu darganfyddwyr y weithred pwy oedd y llofrudd. Pan ddaethant yn ol, ar ol cludo corff y wraig ieuanc i'w chartref, yr oedd corff y mynach wedi cael ei gymeryd ymaith i gyfeiriad yr afon. Dilynasant ei lwybr hyd ymyl y dŵr, trwy gymhorth y gwaed oedd wedi dyferu ar y glaswellt yr holl ffordd. A'r farn oedd, i'r llofrudd ei daflu i'r afon, yr hon ddigwyddai fod yn llawn llif ar y pryd, ac yna iddo foddi ei hun.

"Beth ddaeth o'r brawd ieuengaf?" gofynnai Gwladys.

"Nid oes neb yn gwybod," oedd yr ateb. "Nis gwelwyd ef byth yn agos i'r lle."

"Taenwyd y fath ystraeon ofergoelus ynghylch ysbrydion y llofruddiedig yn ochain ac yn ysgrechain o amgylch y tŷ," ychwanegai Syr Urien wrth adrodd yr hanes gresynus, "fel nad ai neb o'r ardal yn agos i'r lle."

Ac hyd nes y dychwelai y mab ieuanc o rywle i hawlio ei ystâd a'i etifeddiaeth, yr oedd yn bur debyg, yn ol ei dyb ef, yr arhosai y plasdy prydferthaf ar lan y Tywi yn drigfa i'r wadd, y ddylluan, a'r ystlumod.

Nid ynganodd Gwladys air i egluro paham yr oedd mor awyddus i wybod hanes y lle, ond ar ol clywed yr adroddiadau rhyfedd gan Syr Urien a Mwynwen Huw, "cadwodd y pethau hyn oll iddi ei hun, gan eu hystyried yn ei chalon."