Elis Vychan oedd enw tad Arthur Vychan, y dyn ieuanc y dywedid yn yr ardal iddo lofruddio ei gariadferch a'r mynach yng nghapel Llys Dirlwyn.
Yr ail brynhawn ar ol y braw yn yr eglwys yr oedd Delyth, yn ol ei harfer ar brynhawnau cynnes, yn ymlithro yn araf yma a thraw yn ei chorwgl gan wylio'r haul yn machlud yn araf ar y gorwel draw, a meddwl am Ifor a'r rhyfel. Yr oedd cysgodion yr hwyr yn dechreu disgyn ar yr afon, sŵn lleisiau yr amaethdy gerllaw yn distewi, a natur fel pe yn gwrando ar ei phlant yn mynd i gysgu, pan, heb yr arwydd lleiaf o'i ddynesiad, ymsaethodd corwgl heibio iddi, a'r Tad Meurig yn ei rwyfo i lawr tua chyfeiriad Llys Dirlwyn fel pe am ei fywyd. Os nad oedd yn sicr mai efe welodd yn yr eglwys, yr oedd yn berffaith sicr y tro hwn, ac er na chydnabyddodd ei phresenoldeb mewn un modd, gwelodd ei wyneb yn berffaith eglur, a dywedai wrth Gwladys fod golwg ellyll arno.
Nid aeth Delyth ymhellach na'r ardd a'r buarth am wythnosau ar ol yr ail fraw, ac yr oedd bob amser yn arfog, a Megan neu Gwladys gerllaw; ond ni chafwyd trydydd gip ar yr offeiriad; ac ni ddigwyddodd dim yn yr ardal dawel a eglurai ei bresenoldeb.
Pan yr oedd arswyd "drychiolaeth yr offeiriad" yn dechreu diflannu, cyffrowyd, ac yn wir, dychrynwyd holl breswylwyr yr amaethdy yn gynnar un noswaith gan waith Mwynwen Huw yn dychwelyd i'r tŷ ar ol cyrraedd dim ond hanner y ffordd i'r amaethdy agosaf, tua'r hwn y cychwynasai ar neges. Pan yn cerdded darn o'r brif-ffordd, y ffordd a arweiniai o'r eglwys i gyfeiriad Neuadd Urien, gwelodd Ganwyll Gorff tua dwy lath o'i blaen, yn symud yn araf i gyfeiriad y fynwent. Yn sydyn, cafodd ei hun ynghanol angladd. Clywodd sŵn llu o gŵn yn udo o bob cyfeiriad, a theimlodd wasgfa'r cynhebrwng i'r fath raddau nes mai o'r braidd y gallai anadlu. Ar ol cerdded llathenni lawer i gyfeiriad y fynwent yn y dull poenus hwn, y dorf mor liosog fel ag i'w chodi weithiau oddiar ei thraed, clywodd sŵn traed meirch yn dynesu. Yn y man, aethant heibio, ac ar eu hol gerbyd trwm, olwynion yr hwn oedd yn malurio'r cerrig mân a'r graian mor agos i'w thraed fel y ceisiodd eu tynnu'n ol rhag i'r olwynion fynd drostynt. Eto, er yn clywed