Yr oedd y cyffelybrwydd mor anhawdd i'w olrhain ag oedd cyffelybrwydd rhwng adlewyrchiad o'i gwyneb ei hun welodd unwaith ar waelod ffynnon ddofn o ddwfr llwyd, a hi ei hunan! Eto, ar ol canfod y cyffelybrwydd unwaith, nis gallai ddarbwyllo ei hun mai creadigaeth ei dychymyg ydoedd. Diflannodd ei holl ofn gyda'r darganfyddiad hwn, a safodd am funud gyfan i geisio darllen y weledigaeth ryfedd. Dyn cymharol ieuanc oedd yn dal y carpiau a'r manylion grybwyllwyd wrth eu gilydd. Dyn nad oedd ellyn, gwelleifyn, sebon, dwfr na chrafell wedi bod yn gweinidogaethu ar ei gorff ers hir amser! Dyn oedd wedi anghofio, neu wedi methu sylweddoli, ei fod yn ddyn. Yr un pryd, nid oedd raid edrych ddwywaith yn graff arno er canfod olion digamsyniol y boneddwr ynddo, mor eglur ag y canfyddir olion delw ei Greawdwr yn y pechadur pennaf.
Gydag ymdrech boenus, cyfododd ar ei draed a threiodd foesymgrymu i Gwladys, a rhybuddiodd hi mewn llais gwan, crynedig,
"Foneddiges brydferth," meddai, "gochel bresenoldeb halogedig y pechod-fwytawr!"
"Pechod-fwytawr?"
"Ie, dyna ydwyf, oherwydd fy mhechod mawr fy hun, cymerais arnaf bechodau rhai ereill, bwyteais bechod fel y bwytaodd y Brenin Dafydd ludw; bwyteais ef fel bara; ond y mae fy euogrwydd yn aros, a fy nhrueni yn fawr arnaf."
"Dy euogrwydd am ba beth?"
Aeth geiriau'r cwestiwn drwyddo fel cynifer o fwledau. Crynodd fel deilen, ac edrychodd dros ei ysgwydd i gyfeiriad y capel yn y coed fel pe yn disgwyl i ryw ysbryd colledig i ddyfod oddiyno i'w gyhuddo, ac wedi boddhau ei hun nad oedd neb na dim yn dyfod, rhoddodd ei law ar ei hysgwydd, a sibrydodd,
"Ni raid i mi gyffesu ond wrth Dduw!"
Dywedodd hyn gyda phwyslais ac edrychiad un oedd wedi bod yn meddwl yn hir ar y mater, ac wedi dyfod i benderfyniad terfynol yn ei gylch.
Wrth geisio cyfrif am ei eiriau rhyfedd a'i ymddanghosiad eithriadol, daeth i gôf Gwladys fod ei thad wedi ei hysbysu droion fod "Pechod-fwytawyr" yn sefydliadau digon cyffredin yng Nghymru Babyddol; ac er fod y gred ynddynt yn marw yn