yr ardaloedd lle y darllennid y Beibl ac y taenid goleuni Protestanaidd, yr oedd miloedd o'r Pabyddion yn parhau i gredu ynddynt hyd y dydd hwnnw. Yr oedd llawer math ohonynt, a chyflawnent eu swydd erchyll mewn llawer dull a modd Y dull mwyaf cyffredin oedd i berthynasau yr ymadawedig roddi pryd o fwyd ar fynwes corff marw. Trwy ryw fodd, nad oes neb wedi cynnyg ei egluro, tybid fod pechodau yr un marw yn mynd i'r bwyd. Yna rhoddid ef i'r "Bwytawr," ynghyda swm o arian. Wedi iddo ei fwyta, ai'r pechodau unwaith eto o'r bwyd i'r "Pechod-fwytawr," ac efe fyddai bellach yn euog ohonynt, ac yn gyfrifol am danynt, ac nid y sawl a'u cyflawnodd! Dywedodd ei thad wrthi fod llawer o greaduriaid anwybodus a hynod ofergoelus wedi cymeryd arnynt gyflawni dyledswyddau arswydol y swydd hon yn y gorffennol yn y gobaith y buasai eu penyd gwirfoddol mewn rhyw ffordd ddirgel yn cael ei gyfrif" iddynt "yn gyfiawnder." Gallai ddeall y posibilrwydd i bersonau fel hyn gredu'r fath athrawiaeth; ond methai weld pa fodd y gallai unrhyw ddyn fedrai ddarllen ac ysgrifennu, heb son am bersonau a gyfrifid yn hyddysg a diwylliedig, gredu y fath ffiloreg. Rhaid fod naill ai euogrwydd neu benboethni wedi eu gyrru yn ynfyd.
Pan oedd y pethau hyn yn gwibio trwy ei meddwl a'i chôf, anghofiodd am funud y creadur truenus gerllaw iddi, er fod ei lygaid gwyllt yn syllu arni o'i phen i'w thraed fel un yn edrych ar ryw wrthrych na feddyliodd am weld ei fath erioed. Gwelodd ei fod yn disgwyl iddi gadarnhau neu nacau ei haeriad ynghylch pwy i gyffesu ei euogrwydd iddo, ac atebodd,
"Na raid. Duw yn unig sydd yn deilwng i wrando cyffes yr enaid."
"Pwy ddywedodd hynny wrthyt?"
Ei air Ef Ei Hun, a fy synwyr cyffredin innau."
"Wyt ti yn sicr o hyn?"
"Ydwyf, os nad yw'r euogrwydd yr wyt yn son am dano yn cyfodi oddiar dy waith yn torri deddfau dy wlad, neu yn gwneyd niwaid i'th gyd-ddyn, yna."
"Yna rhaid cyffesu i'r offeiriad cyn cael maddeuant?"
"I'r offeiriad! Nid oes rhwymedigaeth arnat i gyffesu pechod i offeiriad, er cael maddeuant, dan unrhyw fath o amgylchiad mewn bywyd:'