Wedi i'r milwyr ymadael gyda'u carcharor, penderfynodd Sesyl Ifan a Gwladys ddychwelyd i Landâf, lle nad oedd neb yn chwilio am danynt ar y pryd.
Cyn ymadawiad ei chyfeillion, gwawriodd ar feddwl Delyth Kyffyn mai eu cyhuddwr i'r Cadfridog Gerard oedd y Tad Meurig. Yr oedd hi a Gwladys wedi cael eu llyncu i fyny gymaint gan y "cardotyn" yn Llys Dirlwyn, fel, ar ol gweld wythnosau yn mynd heibio a dim arwydd am ddychweliad "y ddrychiolaeth " oedd wedi peri cymaint o arswyd yn ei dri ymddanghosiad, cymerasant yn ganiataol mai'r offeiriad ydoedd, ac fod yna reswm neilltuol yn cyfodi oddiar ryw gysylltiad gorffennol rhyngddo â'r "cardotyn" yn ei ddychrynnu rhag datguddio ei wir hunandeb. Tra yr oeddent hwy felly yn ymarferol wedi anghofio yr offeiriad, teimlai Delyth yn sicr wrth adolygu y digwyddiadau diweddar yng ngoleuni ei gwybodaeth o hono, iddo ef fod yn brysur gyda'i hoff orchwyl o weithredu y tu ol i'r llen, a bradychu pobl y tu ol i'w cefnau. Wrth feddwl am dano yn y goleu eangach a daflai ar ei ymddygiad a'i symudiadau, teimlai yn hollol argyhoeddedig yn ei meddwl ei hun mai efe oedd yr "offeiriad" y credai'r bobl ddarfod i Arthur Vychan ei lofruddio a thaflu ei gorff i'r afon. Yr oedd yn fwy na thebyg bellach mai Vychan oedd y "cardotyn," a'i fod yn credu iddo ladd llofrudd ei gariadferch, ac yn ei ymdeimlad o euogrwydd, wedi ffoi a gwneyd ei hun yn "Bechodfwytawr" am flynyddau; tra ar yr un pryd yr oedd yr offeiriad cyfrwys wedi dianc rhag ei ddialedd, ac yn awr yn ofni cael ei gymeryd i fyny fel llofrudd y ferch ieuanc fu yn achos yr holl alanas. Cydunai Sesyl â'i thybiaeth, a datganai ei farn fod argraff boneddwr ar y "cardotyn" hyd yn oed yn ei garpiau. Hyd yma, fodd bynnag, nid oedd wedi gweld y tebygolrwydd tarawiadol oedd rhyngddo â Wil Pilgwenlly,—yn enwedig ar ol ei adferiad o'r dwymyn,—a chan na ddarfu ddarganfod hynny ei hun, ni ynganodd neb air wrtho.
Ymhen ychydig ddyddiau ar ol eu hymadawiad, daeth y newydd i'r Neuadd Fach am fuddugoliaeth fawr Cromwel yn Naseby, a dechreuodd y bobl gyfeirio at yr "Hen Nol" dan eu hanadl gyda dychryn, a chredent y byddai yn sicr o ddyfod gyda'i