fyddin a'i fagnelau mawrion i ddryllio castelli'r wlad, a dial ar ei elynion trwy eu hysbeilio, eu carcharu, a'u lladd.
Dygodd y newydd y byddai i fuddugoliaeth fawr Naseby derfynu y rhyfel, yn ol pob tebyg, yn ffafr y Seneddwyr, deimlad o waredigaeth a llawenydd i Delyth. A chware teg iddi, yr oedd ei llawenydd yn codi oddiar rywbeth mwy na'r ffaith fod Ifor yn perthyn i'r ochr fuddugoliaethus. Bu adeg pan yr edrychai hi a miloedd ereill ar y rhyfel fel yr ymgyrch oedd i benderfynu tynged Pabyddiaeth ym Mhrydain. Oherwydd credai y Pabyddion, os byddai Siarl yn fuddugoliaethus, y cyhoeddai ei hun yn Babydd ar unwaith, neu o leiaf y rhoddai y grefydd Babaidd ar uwch safle yn y wlad nag y bu ers canrifoedd. Felly, yr oedd holl ganlynwyr y Pab yn gweddio am i'r Brenhinwyr gario'r dydd yn yr ymgyrch fawr. Dyna hefyd oedd gweddi Delyth pan ddesgrifiwyd amcan yr ymgyrch iddi gan ei thad a'i chyffesydd ar y cyntaf. Ond yr oedd dysgeidiaeth Wroth a Cradoc, esiampl ddynol Ifor, ac athrawiaeth iachus Sesyl Ifan a'i ferch, wedi gwneyd eu gwaith, ac wedi ei gorfodi i edrych ar yr holl gwestiwn mewn goleuni ac oddiar safbwynt uwch.
Ni wnaeth dim ddioddefodd hyd yn hyn argraff mor ddwfn phoenus ar ei meddwl a hir ddistawrwydd Ifor yn ystod y tymor hwn. Ofnai yn aml ei fod yn garcharor, a methai gysgu am oriau ambell noswaith gyda'r drychfeddwl noeth fod Breddyn Kemys wedi llwyddo i gael gafael arno. Arswydai weithiau gan ofn ddarfod ei ladd heb i neb fod yn gwybod. Yr oedd Wil Pilgwenlly hefyd wedi bod yn ddistaw yn ystod yr un amser.
Bu agos iddi wneyd ei meddwl i fyny unwaith neu ddwy i fynd i Swydd Efrog fel yr aethai y Forus-ddawnswraig, er gwneyd ymchwiliad personol i achos y distawrwydd; ac nid yw yn anhebyg na fuasai wedi cario allan ei bwriad pe buasai lawer yn hwy heb eglurhad.
Un bore, pan yn synfyfyrio ar lan y Tywi pa beth i wneyd, gwelodd greadur yn symud yn ei chyfeiriad barodd iddi gredu ar y cyntaf fod y Tad Meurig wedi dychwelyd i'r ardal, a'i fod yn dyfod i ymddiddan â hi. Ei bwriad cyntaf oedd ffoi, am y gwyddai os mai yr offeiriad ydoedd, na fyddai ei bywyd yn ddiogel am foment yn ei bresenoldeb, os y buasai o unrhyw fantais iddo i'w gymeryd. Ond ar ol ail feddwl, penderfynodd