beryglus ar ol ymadawiad ei gyfaill, yr hwn, pan ddeallodd, a ddychwelodd i'w ymgeleddu trwy ganiatad personol Ireton a Rupert."
"Beth ddigwyddodd ar ol hynny?"
"Terfynodd y swyddog ei adroddiad, mor bell ag oedd a fynno â hwy, ar ol dychweliad y cyfaill."
A pha beth wnaethant i'r ellyll Breddyn Kemys?"
"Trwy ddylanwad Arglwydd Raglan, cafodd ryddhad, ond ni fynnai Rupert gymaint ag edrych arno ar ol ei fradwriaeth, a thyngodd na chai fod yn swyddog o dano ef byth mwyach."
"Oedd gan y swyddog,—y swyddog oedd yn adrodd hyn oll wrth y Brawd Iestyn,—ragor i'w ddweyd?"
Oedd gryn lawer. Aeth yn ei flaen i hysbysu yr offeiriad ei fod yn wybyddus i arweinwyr y Brenhinwyr y byddai i Cromwel ddod i Gymru a dryllio pob Castell oedd yn bresennol ym meddiant pleidwyr Siarl, os na roddent hwy i fyny, a phroffwydodd y byddai yr holl wlad,—yn cynnwys y Werddon a'r Alban,cyn pen nemawr amser dan lywodraeth y Senedd."
"A oedd y Brawd Iestyn yn credu ei broffwydoliaeth?"
Oedd, ac wrth adrodd ei gynlluniau ynghylch diogelu ' iawnderau a meddiannau yr Eglwys,' nes yr elai aflwydd buddugoliaeth y Seneddwyr heibio, y clywais ef yn rhoddi ei ddedfryd arnat ti, Syr Ifor a minnau. Yr ydym ein tri yn rhwystrau bygythiol ar ffordd eu gweision i hyrwyddo llwyddiant y wir Eglwys, ac y mae yn rhaid ein symud.' Y mae Breddyn Kemys wedi ei dynghedu i symud' Syr Ifor. Rhoddodd y swyddog Pabaidd ei air i'r Brawd Iestyn y noswaith honno yr argyhoeddai ef y Cadfridog Gerard fy mod i yn llofrudd, yn lleidr ac yn ysbiwr, ac nad oedd yn ddiogel fy arbed am un awr; ac am danat ti
"Wel, beth am danaf fi?"
"Yr wyt ti i briodi Breddyn Kemys ar ol iddo lwyddo i 'symud' Syr Ifor, ond nid cyn hynny."
"Wnawd rhyw gyfeiriad yn eu hymddiddan at Syr Urien Owain a Meistr Sesyl Ifan?"
"Do, lawer o gyfeiriadau. Wrth gwrs, y mae gan Iestyn gynllun i gymeryd meddiant o'r ddwy ystâd yma,—Neuadd Urien a Llys Dirlwyn. Ac y mae yn gynllun cyfrwys dros ben,