ac os gall fy' symud i a Syr Ifor, y mae yn debyg o lwyddo. Yr oedd carchariad Meistr Sesyl Ifan a'i ferch yn rhan o'r cynllun. Ond y mae'n teimlo'n lled sicr y gall eu sicrhau hwy yn eu cartref yn Llandâf, yr hwn le a eilw yn "nyth teyrnfradwyr!'"
"Pa bryd y clywaist yr ymddiddan hwn?" "Neithiwr, neu yn hytrach bore heddyw."
"Yr wyt yn dyrysu. Nid ydyw ond ychydig wedi boreubryd, ac nis gallet gerdded y pellter dan bron ddau ddiwrnod!" "Gwir, ond cefais afael ar geffyl y swyddog ychydig yn nes i fyny'r ffordd, a marchogais ef am ychydig drwy'r gwaenydd fel na chlywent sŵn ei draed, ac yna cymerais ef i'r ffordd, a gyrrais ef ar garlam am lawer o filltiroedd. Wedyn, disgynnais, a gollyngais ef yn rhydd, a chymerais geffyl rhyw amaethwr, heb gyfrwy, a gyrrais hwnnw drachefn o fewn ychydig i'r lle hwn, ac wele fi."
"A pha beth yw dy symudiad nesaf? "
"Mynd at Cromwel a dweyd fy hanes wrtho, a gofyn am ei gynhorthwy."
"Ond ра fodd?"
"Trwy egluro i Mwynwen Huw pwy ydwyf, a gofyn am ei chynhorthwy."
"Gwrando. Tra yr wyt ti wedi bod yn llefaru, yr wyf i wedi bod yn meddwl a chynllunio. Tyrd yn gyntaf peth i gael lluniaeth, yr un pryd egluraf fy nghynllun, a gwnaf fy nghais."