Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pennod XIX.

"Y MAE rhywbeth yn dweyd wrthyf fod Ifor yn fyw er cymaint ei berygl, ac er dued yr amgylchiadau," meddai Delyth wrth Arthur Vychan, yn ddiweddarach, "ac y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf hefyd fod yn rhaid i mi wneyd rhywbeth i'w waredu, ac nis gallaf orffwys munud yn hwy nag sydd raid cyn dechreu gweithredu. Mae'r adnoddau angenrheidiol i'r daith yn fy meddiant, ac os nad oes arnat ofn y cyfrifoldeb o gymeryd dwy ferch ieuanc dan dy ofal, bydd Megan a minnau yn barod i'th ganlyn mewn byrr amser. Ein dyledswydd gyntaf ydyw rhybuddio Sesyl Ifan a'i ferch o'u mawr berygl, ac yna cyflymu i wersyll Fairfax gyda llythyr cymeradwyaeth oddiwrth Sesyl."

"Wyt ti'n cofio mai Pabyddion ydym, a'i fod yn bosibl na wna arweinyddion y Seneddwyr ddim trafferthu eu hunain gyda'n hachos?"

"Nid wyf yn sicr, hyd yn oed yn fy meddwl fy hun, mai Pabyddes wyf mwyach."

"Wyt ti'n barod i broffesu dy hun yn Brotestant?"

"Nac wyf, yn hollol. Ond y mae yn amheus gennyf a alwaf fy hun yn Babyddes mwyach."

"Yr wyf fi yn yr un sefyllfa!"

"Diolch i Dduw!"

Nid wyf yn credu y bydd yna fawr o'r Cymry yn aros yn Babyddion ar ol i'r rhyfel derfynu, yn enwedig pan glywant rai o'r pethau glywais i neithiwr ynghylch y modd y ceisiai Pabyddion y Werddon brynnu Siarl, ynghyda'r amodau gwaradwyddus trwy ei gydsyniad â pha rai, y cynhygient eu cynhorthwy iddo."

"Os oes ynnot amheuaeth ynghylch ein derbyniad gan Cromwel a Fairfax, oni fyddai yn well i ni gymeryd rhyw ffordd arall i gyrraedd ein hamcanion?"

"Gad i ni yn gyntaf gyrraedd tŷ dy gyfaill a'i ferch, i'r rhai yr ydwyf, yn ol pob tebyg, yn ddyledus am fy mywyd. Yna cymeraf fy nghyfarwyddo ganddo ef ynghylch y cam nesaf. A dweyd y gwir wrthyt, pe bawn yn gwybod nad yw fy anwyl