frawd yn fyw,—fy mrawd, yr hwn wyf wedi ei ddiraddio a'i niweidio mor fawr,—ofnaf na byddai gennyf nerth i fynd gam ymhellach. Ond fel y dywedaist ti am Syr Ifor, y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf ei fod yn fyw yn rhywle, ac os ydyw, y mae yn ddyledswydd gysegredig arnaf i fynnu gafael arno, gofyn ei faddeuant ar fy ngliniau am y blynyddau o boen a gwarth a achosais iddo, a mynnu ei weld yn byw yn Llys Dirlwyn, cartref ei dadau."
Bu yn demtasiwn gref i Delyth i ddweyd wrtho am y cyffelybrwydd tarawiadol oedd rhwng yr hyn a wyddai o hanes Wil Pilgwenlly, a'r desgrifiadau a roddasai ef o'i frawd colledig, ond gan nad oedd Gwladys wedi gweld yn ddoeth i'w hysbysu, cadwodd yr hyn a wyddai iddi ei hun.
Cyrhaeddasant dŷ Sesyl Ifan heb un anffawd na siomedigaeth. Ond cawsant y tŷ yn wâg, a'r holl ddinas fechan yn ferw o gynnwrf oherwydd fod y Brenin yng Nghaerdydd.
Yr oedd y ddau ddigwyddiad, colli Sesyl Ifan a darganfyddiad presenoldeb Siarl,—mor hollol anisgwyliadwy, fel y dymchwelasant eu holl gynlluniau, a bu dda iddynt fod Megan ymarferol gerllaw i awgrymu iddynt pa gwrs i'w gymeryd Cyngor doeth Megan oedd i'r boneddwr fynd i aros i Westy neilltuol yng Nghaerdydd, ac i'w meistres fynd yn syth at Brenin i ymofyn ei gennad a'i nawdd i chwilio am y swyddo clwyfedig.
Gweithredodd y ddau ar yr awgrym. Gan fod Delyth yn alluog i nodi yn ei chais fod ei thad wedi bod o wasanaeth arbennig i Siarl yn ystod ei ymweliad â Spaen, ni chafodd fawr drafferth i gyrraedd ei bresenoldeb. Ac wedi ei gyrraedd, gan ei bod mor brydferth, a'r Brenin gymaint dan lywodraeth prydferthwch, ni bu dim anhawster i ennill ei gydymdeimlad. Wedi ei holi am ei thad, ac am achos y Brenhinwyr yng Nghasnewydd, anfonodd am Ysgrifennydd Rupert. Nid oedd y gŵr hwn wedi anghofio yr amgylchiad, ac er cymaint gofid y Brenin ar y pryd, gwnaeth iddo chwerthin nes oedd yn gorfod dal ei ochrau wrth ddesgrifio Wil Pilgweally a Twm Dwt yn dyfod yn eu hol i'r gwersyll gyda'r asyn Kemys" yn hongian o ddannedd y ceffyl cyfrwys. "Ni fuasai dim yn rhoddi mwy o foddhad i'r Tywysog," meddai, "na chadw'r ddau swyddog yn ei fyddin;