Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wyt ti'n ddiogel yma?"

"Ydwyf, ar hyn o bryd, os na thry neb o'm cyfeillion diweddar yn fradwyr."

"Pa le 'rydym?"

"Yn un o hen ystafelloedd dirgel y Castell."

"Faint o bobl y dref sydd yn gwybod am ei bodolaeth?

"Ychydig iawn, ac y maent oll ar hyn o bryd ym myddin y Senedd. Y mae crybwyll am y Senedd yn f'adgofio fy mod wedi cael llythyr oddiwrth Wil Pilgwenlly y dydd cyn i mi ffoi yma." Yr oedd yn llythyr maith a manwl, a Wil yn dod i'r golwg ym mhob paragraff o hono. Wrth gwrs, yr oedd Meistr Ifor (nis gwyddai yr ysgrifennydd am farwolaeth Syr Urien) yn dod i mewn i bob desgrifiad o'i brofiad, ac yr oedd yn amlwg fod ei syniadau am dano yn uwch nag erioed. Ond ar ol i Delyth ddarllen am Naseby, bradwriaeth Kemys, eu harhosiad yng ngwersyll Rupert, a hir wendid Ifor ar ol ei ddychweliad i wersyll Fairfax, daeth at y paragraff canlynol, ac aeth ei gwyneb mor welw a chorff wrth ei ddarllen, ac wedi gorffen, ymddanghosai fel un a'i gobaith olaf wedi diflannu.

"'Rwy'n ofni," meddai'r ysgrifennydd, "na sylweddolir ein disgwyliadau am Meistr Ifor a Meistres Kyffyn wedi'r cwbl. Nid wyf yn gwybod yr achos, ond yr wyf yn casglu ei fod yn cyfod oddiar ei Phabyddiaeth hi yn hollol. Carwn fanylu, ond nid o gennyf amser y tro hwn. Gobeithiaf dy weld cyn hir. Y mae Meistr Ifor, Idris a minnau, wedi cael caniatad Cromwel i ymuno â chatrodau Rolant Lacharn yn Neheudir Cymru, a bwriadwn gychwyn gyda mintai o Gymry ereill tuag yno yfory."

Druan o Delyth. Hanner awr yng nghynt nid oedd merch ieuanc yn yr holl wlad yn fwy byw, yn fwy llawn o ddyddordeb mewn bywyd, yn fwy aiddgar i aberthu cysur personol, i wynebu peryglon a dioddef llafur a lludded taith fawr er cael gwybod a allai fod o'r gwasanaeth lleiaf i wrthrych ei serch, ond ar ol darllen yr ychydig eiriau hynny, yr oedd y byd wedi troi yn fyd arall, a'i holl ddyddordeb yn ei fywyd a'i symudiadau wedi darfod.

Gwnaeth Gwladys a Megan eu gore i'w hargyhoeddi mai Wil oedd yn tynnu camgasgliad oddiwrth rywbeth a welsai neu a glywsai, ac mai nid yr esboniad oedd hi yn roddi i'r geiriau oedd yr un iawn, ond nis gallent ei darbwyllo. Adgofiai hwynt am