y syniadau cryf a goleddai Ifor am Babyddiaeth, dygai ar gof iddynt y modd y condemniai y cyfryngau oedd Rhufain yn ddefnyddio i gyrraedd ei hamcanion, a'r iaith gref a ddefnyddiai pan yn priodoli ofergoeliaeth ac anghrefyddoldeb ei genedl i waith yr offeiriaid Pabyddol yn ei wneyd yn amcan penodol i gadw'r werin mewn anwybodaeth.
"Na," meddai, "nid wyf yn camesbonio geiriau Wil. Y mae Ifor wedi gwneyd ei oreu i ddygymod â'r ffaith mai Pabyddes oedd ei ddyweddi, ond y mae yr hyn a welodd neu a glywodd yn y fyddin, ac yn y rhyfel, wedi agor ei lygaid i'r ffaith mai ieuo anghydmarus ydyw ieuo Pabyddes â Phrotestant, faint bynnag fyddo eu serch at eu gilydd. Dyna sydd yn cyfrif am y misoedd meithion aeth heibio er pan anfonodd ei lythyr diweddaf."
Wedi rhai munudau o ddistawrwydd poenus heb i neb gynnyg ameu yr haeriad oedd yn ymddangos mor resymol yn y gole yr edrychai ar bethau, ychwanegodd mewn llais oedd mor llawn o falchder personol ag oedd o hunan—dosturi,
"Pe buasai wedi aros ychydig, ac wedi ymarfer ychydig mwy o amynedd, mae'n ddigon tebyg y buasai profiad a gwybodaeth, wedi eu hennill trwy hir ddioddefaint, yn symud y rhwystr a dybia ef mor ansymudol oddiar ei lwybr."
Yr oedd Megan wedi bod yn ddistaw hyd yn hyn, ond pan welodd ddagrau ei meistres, cauodd ei dwrn, tarawodd ei throed yn erbyn y llawr, a dywedodd mewn llais digllawn,
"Mae rhywbeth yn dweyd wrthyf ein bod yn gwneyd cam â Syr Ifor, wrth briodoli'r fath ymddygiad iddo. 'Rwi'n credu ei fod yn ddyn, yn foneddwr, ac yn Gristion, er gwaetha'r llythyr a'r distawrwydd. Os try allan nad oes sail i fy nghred, ni chredaf dystiolaeth fy synhwyrau fy hun byth mwy. Beth bynnag yw y gwir esboniad ar y llythyr a'r distawrwydd, yr oedd, ac y mae Syr Ifor, yn caru fy meistres i'r fath raddau, fel pe byddai'n baganes wyllt o'r coed, heb son am Babyddes, ai trwy ddwfr a thân, ie, trwy angeu ac uffern, er mwyn ei chael yn wraig." "Ond Megan, beth am yr amser hirfaith aeth heibio, heb iddo anfon yr un gair?"
"Pan geir eglurhad, 'rwi'n sicr y try allan ei fod wedi ysgrifennu, a'i lythyrau heb gyrraedd, neu fod rhyw rai wedi dweyd anwiredd wrtho."