Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Os ydynt yma, ni ddylem golli dim amser i'w darganfod. Ac os gwnei orffwys ychydig ar ol dy ludded, mynnaf ymddiddan pellach â thi."

Ond nid oedd Beto am orffwys. Yr oedd ganddi ragor o "ramantau " i'w traethu, ac fel un yn mwynhau y cyffro oedd eisoes wedi greu, atebodd nad oedd yn rhy luddedig i hysbysu'r cwmni am ffeithiau pwysig iawn mewn cysylltiad âg un arall o'u nifer cyn y byddai iddi ddychwelyd i'r dyffryn.

Unwaith eto edrychodd Wil yn daer arni, ond ni chymerai arni ei ganfod, ac heb aros am ganiatad neb, dechreuodd adrodd ei thrydydd " rhamant."

"Y mae," meddai, "neu yr oedd, ymysg swyddogion Lacharn, ŵr ieuanc o Babydd.———"

"Aros! Aros!" meddai Syr Ifor, "nis gallwn gredu ynnot fel Gwraig Hysbys' ar ol y fath haeriad. Dylet wybod, os wyt yn deilwng o'th enw, fod y Pabyddion oll yn y fyddin arall,

"Nid wyf yn dweyd ei fod wedi parhau yn Babydd, Syr Ifor, gobeithiaf nad yw, ond cafodd ei eni a'i addysgu'n Babydd, a pherthyna i un o'r hen deuluoedd Pabyddol Cymreig mwyaf selog yn y wlad. Bu ar grwydr er yn fachgen.

Cred fod enw parchus ac anrhydeddus ei deulu wedi ei ddiraddio gan ei unig frawd, yr hwn, yn ol ei dyb ef, a channoedd ereill, sydd yn gorwedd ym medd llofrudd ar lan, neu yng ngwaelod yr afon Ty Gyda balchder nodweddiadol ei bobl, pan glywodd am y math ddrwg gyflawnodd ei frawd, penderfynodd, er nad oedd ar y pryd ond bachgen ieuanc yn yr ysgol, na chai neb ei adnabod bellach wrth enw ei dadau. Gadawodd ei ysgol, torrodd bob cysylltiaa â'i gyfeillion a'i gydnabod, aeth i ardal ac i fysg pobl ddieithr, gadawodd blas ei dadau yn llawn trysorau teuluol heb neb i agor na chau ei ddrysau,—gymaint oedd ei gywilydd am y gwarth ddygwyd ar ei enw,—a cherfiodd iddo ei hun enw a safle mewn galwedigaeth anrhydeddus drwy ei dalent, a'i ymroad, a'i gymeriad dilychwin. Ac yn awr, ar ol blynyddau meithion o ing meddyliol try allan fod ei frawd yn fyw, ac yn hollol ddiniwaid o waed ei gyd-ddyn, yr hwn sydd hefyd yn fyw ac yn iach!"

Yr oedd yr argraff wnaed gan yr adroddiad hwn tu hwnt i ddesgrifiad. Yr oedd Beto ei hun yn ei adrodd gyda theimladau mor gynhyrfus nes y teimlai pob gwrandawr rywbeth tebyg i