Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Megan a hithau'n hir cyn gwneyd trefn ar bethau, a pheri i'r tŷ a'r ardd, trwy gynhorthwy garddwr a'i morwyn newydd, edrych mor gartrefol a chysurus ag erioed.

Ond er yn rhydd o'r carchar, ac er yn gwybod fod yr "achos mawr" y gwnaeth ei thad ei hun yn wir ferthyr er ei fwyn, yn llwyddo trwy'r holl wlad,—yn llwyddo mor amlwg nes oedd Brenhinwyr yn troi'n Seneddwyr ym mhob cyfeiriad, a phersonau oedd yn drahaus a bygythiol ychydig amser yn ol, yn awr yn or—awyddus am fod yn gyfeillgar a chymdogol,—yr oedd Gwladys Ifan ymhell o fod yn ddedwydd. Ni bu un adeg yn ferch a hoffai lawer o gwmni. Er yn ieuanc iawn, ymdaflodd yn hollol i waith mawr ei thad, a gwnaeth waith dirprwyol drosto ym mhob rhan o'r wlad, ond yr oedd yn waith oedd yn hawlio dirgelwch a hunan-hyder i'r fath raddau fel na wnaeth gyfaill na chyfrinachwr o neb nes i Wil Pilgwenlly ddyfod i'w bywyd. Gyda'i ddyfodiad ef, newidiodd popeth. Ni fu Wil yn hir cyn dangos i'w thad a hithau y gallai wneyd ei ddyledswydd yn gydwybodol a llwyddiannus ar raddfa eang, ynghanol perygl, a than drwynau gelynion cyfrwys, a chadw gwên ar ei wyneb a chân yn ei galon bob cam. Llanwodd fynwesau cydweithwyr sobr ei thad lawer gwaith â braw a dychryn mawr gyda'i droion difyr a'i ystranciau ysgafn, ond ni ddigwyddodd y niwed lleiaf i'r un ohonynt mewn canlyniad.

Yn y dyddiau diweddaf hyn, yr oedd yn cael ei hun beunydd yn adolygu y gwasanaeth ardderchog wnaethai Wil dros yr "achos mawr." Gyda rhyw gymaint o boen, adgofiai ddiffyg ymddiriedaeth ei thad ynddo ar y dechreu, oherwydd y gwyddai ei fod yn perthyn i uwch safle mewn cymdeithas na'r hon a lanwai, a llenwid ei chalon â balchder wrth feddwl mor dawel a dirwgnach y cymerai y cyfan, yn enwedig rhybudd ei thad rhag iddo golli ei galon i'w ferch. Cofiai ymweliad cyntaf Ifor Owain â'i chartref, yr argraff ffafriol a wnaeth ar bawb oedd yng nghyfrinach ei thad, a'r modd y daeth yn ffafryn gan bawb,yn enwedig Wil,—bron ar unwaith.

Daeth hyn a hi ar unwaith i'r presennol. Pa le yr oedd y ddau gyfaill hyn heddyw? Canys yr oeddent yn wir gyfeillion er dechreu eu hadnabyddiaeth. Wyddent hwy am farwolaeth ei thad? Wyddent hwy am garchariad Delyth Kyffyn a hithau?