Cofiai fod Arthur Vychan wedi llwyddo, trwy wobrwyo dau neu dri o swyddogion, i anfon llythyr iddi unwaith i'r carchar, yn yr hwn y dywedai ei fod wedi treio pob dyfais y gwyddai am dani er eu rhyddhau, ac nid yn unig wedi methu, ond yn ymyl cael ei wneyd yn garcharor ei hun. Er hynny, nid oedd am roddi i fyny ei ymdrech i'w rhyddhau am foment. A hysbysai hi iddo ddyfod i'r penderfyniad o fynd ar ol ei frawd a Syr Ifor, a gwneyd ei hun yn hysbys iddynt, ac os yn bosibl, gan fod seibiant yn y rhyfel, eu dwyn yn ol gydag ef i Gaerdydd y cyfle cyntaf.
Ceisiai ddarlunio iddi ei hun Gwyn Vychan, y swyddog milwrol, ac ymdrechai ei gymharu a'i gyferbynnu yn ei meddwl â'r direidus Wil Pilgwenlly. Tra yr oedd yn diolch o'i chalon am symud y cwmwl fu uwchben ei fywyd, a bod enw da ei deulu yn sefyll mor uchel ag erioed, a'i frawd wedi dyfod yn ol i'w fywyd yn ddyn anrhydeddus, nid oedd yn sicr ei bod yn falch o'r cyfnewidiad, mor bell ag oedd a fynno â Wil fel gwrthrych ei serch. Pe cai ei dewis pa un ai yr hen Wil ddireidus, eto dewr a gonest, a garai weld yn dyfod yn ei ol i dŷ ei thad, ynte y milwriad enwog a enillasai gymeradwyaeth uchel Fairfax a Cromwel, o'r braidd na roddai ei llais o blaid yr hen Wil fel yr oedd pan yn gweithredu fel dirprwywr i'w thad ar hyd a lled y wlad.
Ofnai weithiau pan yng ngharchar, ac yn amlach ar ol dyfod allan, na ddychwelai Wil o gwbl i'w bywyd. A phan gymylai yr ofn hwn ei meddwl, collai ei dyddordeb ym mhob peth, a theimlai unigrwydd bywyd yn angerddol.
Yr oedd Megan a hithau yn eistedd un noson yn ymyl y ffenestr oedd yn gwynebu yr ardd rosynau a berthynai i'r tŷ. Yr oedd wedi bod yn ddiwrnod poeth dros ben, ac yr oedd y gwlith a ddisgynnai gyda dechreu'r nos mor drwm nes yr oedd arogl y rhosynau a blodau ereill yn llanw'r ystafell lle'r eisteddent. Bwriadent gychwyn drannoeth, am y chweched waith er eu rhyddhad, i Gastell Raglan, er ceisio gweld yr Iarll a chael cyfle i'w hysbysu'n bersonol am achos carchariad anghyfiawn Delyth Kyffyn.
Wedi hir ymddiddan a dwfn gynllunio, aeth Megan i orffwys gan adael Gwladys i gymuno â'i meddyliau ei hun fel yr arferai wneyd yn aml. Torwyd yn sydyn ar ei myfyrdodau gan sŵn troed rhywun yn dynesu yn gyflym at y tŷ. Cauodd y ffenestr