Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar unwaith, ac arhosodd yn y cysgodion i wrando. Daeth yr ymwelydd yn syth at y drws heb betruso moment, a churodd yn uchel. Wedi goleuo canwyll, aeth i agor y drws ei hun, gan fod y lleill i gyd yn eu gwelyau ers peth amser. Cyn tynnu'r follt, gofynnodd yn ol arfer y cyfnod,

'Pwy sydd yn curo mor hwyr?"

"Un o swyddogion ei Fawrhydi o Gaerdydd sydd eisieu gair gyda Meistres Gwladys Ifan am ei chyfeilles Meistres Delyth Kyffyn."

Heb oedi munud nac ameu dim, agorodd y drws, a daeth dyn wedi gwisgo yr un fath a phrif swyddog y carchar yn araf i'r ystafell, ac eisteddodd yn y gongl bellaf oddiwrth y ganwyll. Ar ol gwneyd ymddiheuriad boneddigaidd am aflonyddu ar foneddiges ar awr mor ddiweddar, gofynnodd iddi fel un oedd yn hysbys o'i symudiadau, os llwyddodd i gael cyfleusdra i roddi achos ei chyfeilles o flaen Arglwydd Raglan. Dychrynwyd hi i raddau gan y cwestiwn, ond atebodd heb betrusder nad oedd wedi llwyddo, ond ei bod yn bwriadu gwneyd rhagor o ymdrechion. Yna, gan gymeryd arno mai dyna'r rheswm dros ei ymweliad, ychwanegodd,

"Daeth dau foneddwr i'r dref heddyw o daith bell,—swyddog milwrol a chydymaith,—a gofynasant ar awdurdod uchel am gael dy weld di a Meistres Kyffyn. Ni chredent y ceidwad ar y cyntaf dy fod wedi'th ryddhau, ond pan argyhoeddwyd hwy, gwnaethant ymholiadau manwl am Meistres Kyffyn, ac ymddanghosent fel yn benderfynol o fynd i garchar Bŵr i wneyd ymholiadau pellach."

"A aethant hwy?"

"'Rwi'n credu i un ohonynt fynd, a deuais yma i wneud ymholiadau ynghylch y llall."

"Yma?"

"Ie. Dywedir dy fod ti yn ei adnabod. Yr oedd rhyw fath o gysylltiad rhyngddo â'th dad. Gadawodd dy dad er ymuno â'r Fyddin Seneddol, yn yr hon y mae yn rhyw fath o swyddog ar hyn o bryd."

'Wyddost ti ei enw?"

"Galwai ei hun yn Wil Pilgwenlly pan yma. Nis gelli fod wedi ei anghofio. Creadur garw, diddeddf, difoes a diras oedd."