Erbyn i Ifor derfynu llefaru, yr oedd y carcharor ym malu ewyn yn llythrennol mewn cynddaredd o ddigofaint a siomiant, ond ni ddywedodd air. Yr un modd Hywel Kyffyn, yn yr hwn yr oedd rhyw olion o ddewrder yn aros er gwaethaf y cwmni dieflig fu'n cymdeithasu â hwynt. Nid felly Breddyn Kemys a Mathew Gloff, y rhai oeddent yn fygylwyr gwirioneddol wrth natur. Gan lwyr anghofio y gorffennol, gwaeddodd y ddau yn uchel a chroch am drugaredd, a rhoddent y bai am eu holl bechodau ar ereill.
Ar ol ei araeth, gadawodd Syr Ifor y carcharorion i Gwyn Vychan, a chymerodd Delyth ar unwaith i dŷ cyfaill i Sesyl Ifan, lle'r oedd Gwladys a Megan yn ei haros.
Pan oedd ef yn egluro iddi achos y distawrwydd a'r camsyniadau a barodd gymaint o boen iddynt ill dau yn yr amser gofidus aeth heibio, a'r modd cyfrwys y daeth Gwyn Vychan i wybod am ei sefyllfa a'i pherygl yn y carchar trwy ddarbwyllo Megan i gymeryd safle morwyn yn nhy Mathew Gloff, lle y daeth i wybod y cyfan trwy ei meistres, yr oedd Gwyn,—yn fwy tebyg i'r hen Wil nag a fu ers amser hir,—yn arwain y carcharor Iestyn trwy ffair Bŵr gyda chwmni o filwyr, a chynhorthwy Mathew Gloff.
Gan fod gwersyll y milwyr a gymerasai Ifor gydag ef, ar ol clywed trwy frys neges oddiwrth ei gyfaill am berygl Delyth, ychydig y tu allan i'r pentref, cymerwyd y carcharor i'r fan mewn ffordd roddodd gyfle ardderchog i Gwyn ddangos i bobl y ffair y fath geffyl talentog oedd Twm Dwt, a'r fath lwfrddyn gwael oedd Mathew Gloff.
Pan ddeallodd y Jesuit fod yn rhaid iddo gerdded yn ei gadwynau, ac arwyddion ereill ei warth, trwy ganol y ffair lle'r oedd llawer yn ei adnabod, gwrthododd symud yr un cam oni chai ei orfodi.
Gorchmynodd Wil i Mathew Gloff, ar berygl cael ei wneyd yn garcharor am ei holl fywyd, gymeryd yr offeiriad i'r gwersyll. Ufuddhaodd Mathew ar unwaith, ac ar ol iddo sibrwd rhywbeth yng nghlust ei gyfaill, cododd yr olaf ar ei draed trwy gynhorthwy y ceidwad, a cherddodd allan trwy'r cyntedd i'r heol. Wedi cyrraedd y fan lle'r oedd mwyafrif mynychwyr y ffair wedi ymgynnull, arhosodd y ddau gnâf ynghanol y dorf, ac yn ol y ddealltwriaeth oedd rhyngddynt, gwaeddodd Iestyn ar y bobl am