Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymhorth i'w waredu rhag trahausder gelynion y Brenin, y rhai a roddasant ddwylaw halogedig ar was Duw i'w garcharu, gan geisio ei ddiraddio am ei deyrngarwch i'w wlad a'i Frenin.

Ar unwaith, rhuthrodd nifer o ddynion o bob cyfeiriad i geisio achub "gŵr Duw" o ddwylaw y Pengryniaid hyf, ac am foment edrychai pethau yn wir beryglus, er fod y milwyr oll yn arfog. Gwyn oedd yr unig un yn marchogaeth, ac fel arfer, yr oedd ar gefn ei hoff anifail Twm Dwt. Pan welodd y bobl yn crynhoi o amgylch y carcharor, ac yn dechreu bygwth, a'r milwyr yn dechreu tynnu eu cleddyfau, bloeddiodd yn ei ddull milwraidd,

"Bobl Gwent! Os ydych yn ofni Duw a pharchu Ei ewyllys, syrthiwch yn ol ar unwaith, rhag digwydd i chwi beth a fyddo gwaeth."

Dechreuodd rhai wawdio, ereill a'i herient ef a'i ddyrnaid milwyr i wneyd eu gwaethaf, tra y rhuthrodd dau neu dri ar amnaid oddiwrth Mathew Gloff i geisio rhyddhau'r carcharor. Cyn iddynt ei gyrraedd, gwaeddodd Gwyn drachefn,

"Yn enw Duw, yr Hwn sydd wedi rhoddi y creadur melldigedig hwn i'n dwylaw i'w gosbi, am bechodau gwaradwyddus, syrthiwch yn ol!"

Yr oedd gwaed y dorf erbyn hyn yn poethi, ac yn lle ufuddhau, rhuthrasant trwy'r milwyr at y carcharor. Yr un foment, plygodd Gwyn ar gefn Twm a sibrydodd yn ei glust, a chyn i un o'r rhai a fynnent ei waredu ei gyrraedd, yr oedd Twm wedi gafael yng ngwarr yr offeiriad, ac wedi ei gyfodi yn uchel i'r awyr, a'i ysgwyd yn ol ac ymlaen o flaen torf o'r bobl fwyaf ddychrynedig welwyd, feallai, erioed ym mhentref Bŵr. Cyn pen tair munud, ffoisant oll, rhai dan ysgrechain, rhai ar lewygu gan ofn, ac ereill yn edrych yn ol dros eu hysgwyddau yr holl ffordd gan ddisgwyl i "fwystfil yr Arglwydd," fel y galwai rhywun Twm Dwt, i'w canlyn a'u llyncu i fyny. Wedi iddynt oll ddianc, gwelwyd Mathew Gloff mewn llewyg ar yr heol, a'r carcharor Iestyn wedi cael ei draed ar y ddaear drachefn yn rhodio'n ufudd i gyfeiriad y gwersyll.

Pan ar ei ffordd i gymeryd Castell Penfro, dair blynedd ar ol y digwyddiad uchod, arhosodd Oliver Cromwel dair noswaith i orffwys dan gronglwyd Neuadd Urien; ac ymhlith y Cymry