Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

symudwyd ei amheuaeth ar unwaith pan aeth Ieuan ymlaen â'i stori,

"Y mae yma forwyn ieuanc." meddai, "o Gaerwent, merch dda, rinweddol, a hollol ddiniwaid."

"Merch sydd wedi ennill serch Ieuan Rolant. Wel, paid dychrynnu. Mae'n bosibl iddi fod yn llawer mwy diniwaid a di-feddwl drwg na thi na minnau, ac eto bod yn offeryn yn llaw Malen Ddu i roi'r gwenwyn yn y faril fêdd. Nid yr offeryn wyf am gyrraedd, ond yr ellylles roddodd yr offeryn ar waith. 'Rwy'n digwydd gwybod fod Malen Ddu yn gyfarwydd â gwenwyno pobl. Mae pump neu chwech o bersonau oedd yn cymeryd yr un olwg ar bynciau cyhoeddus a dy feistr wedi cael eu symud o'r ffordd yn lled sydyn yn ddiweddar, ac yr oedd rhyw gysylltiad rhwng y ddewines o Gaerwent â theulu, neu â chymdeithion, pob un ohonynt; ond hyd yma y mae wedi bod yn rhy gyfrwys yn ei symudiadau i neb allu profi ei chysylltiad â'r marwolaethau. Ond dyma ni bellach ar ei sodlau. Cawn afael ynddi'n awr. Ac y mae'n hen bryd. Dywed wrth dy ddyweddi, Ieuan, beth sydd wedi digwydd. Dangos iddi'r perygl y mae wedi gosod ei hun ynddo. Ar ol i ti lwyddo i roi golwg glir iddi ar y gosb a haedda, rho ar ddeall iddi y bydd pawb yn ei chyfrif hi yn hollol ddiniwaid ond iddi gyffesu pa fodd a pha bryd yr anogodd Malen Ddu hi i gyflawni yr anfadwaith sydd bron wedi lladd dy feistr. Ar ol i ti ei chael yn barod i adrodd yr hanes, tyrd a hi yma i bresenoldeb Syr Urien."

Yn y cyfamser, dechreuai y pethau oedd Wil wedi weinyddu i'r claf gael effaith ffafriol arno. Anadlai yn fwy naturiol, gruddfanai lai, a chiliai'r gwrid fflamgoch yn araf o'i ruddiau. Wrth weld yr arwyddion hyn, darbwyllwyd yr hen Farwnig i adael yr ystafell er cael clywed stori Gwyneth Rhys,—y forwyn oedd Malen Ddu wedi ddefnyddio i wneyd ei gwaith.

Pan welodd Wil Gwyneth, hawdd ganddo ddeall pa fodd yr enillodd hi galon bachgen fel Ieuan. Nid oedd gwyneb prydferthach na mwy agored gan yr un forwyn yn sir Fynwy. Hyd yma, nid oedd wedi cyfaddef dim ond fod Malen wedi bod yng Nglan y Don yn ddiweddar, ac iddi fod yn ymddiddan â hi. Gofynnodd Wil i Syr Urien a Ieuan, heb i Gwyneth ei glywed, am iddynt adael y mater o groesholi y ferch yn hollol yn ei law